Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,771, 1,774 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,616.08 ha |
Cyfesurynnau | 52.4°N 4°W |
Cod SYG | W04000400 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Trefeurig. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberystwyth. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Penrhyn-coch, sydd i bob pwrpas yn un o faesdrefi Aberystwyth. Yma mae Brogynin, lle dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei eni, a phlasdy Gogerddan, sydd nawr yn gartref i IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Ceir nifer o hen fwyngloddiau plwm yma hefyd. Yn ogystal â bod yn gymuned mae Trefeurig yn blwyf eglwysig hanesyddol. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,675. Mae'n ffinio Coedwig Bwlch Nant yr Arian.
Pen gorllewinol y plwyf yw ei man isaf hefyd, yn is na 20m uwchlaw'r môr. Dyma'r man y mae nentydd Peithyll a Chlarach yn cwrdd wrth ymyl Pont Rhyd-hir, sef pont y rheilffordd ar yr A487. Mae'r ffin yn mynd ar hyd Nant Clarach am ychydig cyn dringo drwy goedwig Gogerddan, yna ar hyd y fron islaw Caer Broncastellan nes cyrraedd y ffordd o Bow Street i Bont-goch. Â ymlaen ar hyd y ffordd honno nes troi am ffarm Elgar a dilyn y nant heibio hen weithfeydd mwyn Elgar a Mynyddgorddu a thrwy hen gronfa ddŵr y gweithfeydd. Yna mae'r ffin yn troi am y de dros Fanc Troedrhiwseiri nes cyrraedd afon Stewi. Yno mae'n troi am y dwyrain eto gan ddilyn afon Stewi islaw Caer Pen y Castell i'w tharddiad, ac ymlaen dros Fanc y Garn, ychydig i'r gogledd o'r copa, sydd 437m uwchlaw'r môr, y man uchaf yn y gymuned. Mae'n mynd trwy goedwig sy'n berchen i Gyfoeth Naturiol Cymru (y Comisiwn Coedwigaeth gynt), nes cyrraedd glan Llyn Syfydrin ym mhen dwyreiniol y gymuned. Yno mae'n troi am y de ar draws y gweundir nes cyrraedd heol Ponterwyd nepell i'r gorllewin o feini hirion y Fuwch a'r Llo.
Mae'n dilyn y ffordd hyd nes cyrraedd Llyn Blaenmelindwr ac yna'n dilyn y lôn heibio Llyn Rhosgoch hyd at flaen Cwmerfyn. Mae'n dilyn llethrau deheuol y cwm am y môr nes cyrraedd y ffordd o Gwmerfyn i Gapel Madog. Yna mae'n dringo heibio Ysgubornewydd, yna'n troi i'r gorllewin uwchben dyffryn Madog hyd nes croesi'r ffordd i Benllwyn, yna croesi afon Peithyll a chwrdd â'r ffordd i Gapel Dewi wrth ymyl yr Orsaf Ymchwil i'r Ionosffer. Mae'r ffin yn gadael y ffordd nepell cyn cyrraedd Capel Dewi gan ddilyn afon Peithyll trwy goedwig fach Pwll Crwn hyd at ymyl Pont Rhyd-hir.[1]
Mae 5 o gymunedau yn ffinio cymuned Trefeurig, sef Tirymynach, Ceulanmaesmawr, Blaenrheidol, Melindwr, a'r Faenor.
Rhostir yw'r tir mynyddig ar ben dwyreiniol y gymuned, ar gyrion Elenydd. Mae'n dir agored heblaw am y coedwigoedd pinwydd a blanwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth gan ddechrau yn y 1930au. Gorwedd tair cronfa ddŵr ar y tir uchel yma, Llyn Pantrhydyrebolion (a elwir hefyd yn 'Llyn Pendam'), Llyn Blaenmelindwr a Llyn Rhosgoch. Adeiladwyd y tair cronfa a chronfa Pen-cefn er mwyn cyflenwi dŵr i'r mwynfeydd. Cymdeithas Bysgota Aberystwyth sydd yn gweinyddu'r hawliau pysgota ar lynoedd Rhosgoch a Blaenmelindwr.[2]
Yn ogystal â choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, y mwyafrif ohonynt yn binwydd, mae coedwigoedd coll-ddail a choedwigoedd cymysg i gael yn Nhrefeurig, ar lethrau serth yn bennaf ac ar lannau'r afonydd. Gadawodd rhewlifoedd Oes yr Iâ waddod o raean ar lawr gwastad y dyffryn ar yr iseldir, a haenen o glai. Tir pori wedi'i wella yw gweddill y tir, yn cael ei ddefnyddio i bori defaid a gwartheg. Defnyddir peth o'r tir yn arbrofion IBERS. Gwrychoedd ar ben cloddiau (shetinoedd) sy'n rhannu'r caeau ar yr iseldir gan amlaf, a ffensis gwifrog sydd yn yr ucheldir ac ambell i wal gerrig.[3]
Mae pump o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) yn Nhrefeurig. Mae tri ohonynt, sef Cwmsymlog, Mwyngloddfa Darren a Mwyngloddfa Llechweddhelyg, ar diroedd yr hen weithfeydd mwyn. Fe gliriwyd llawer o wastraff y mwynfeydd yn ystod y 1990au, ond fe erys peth gwastraff o hyd, yn enwedig yng Nghwmsymlog. Mae planhigion a chennau anarferol yn tyfu ar y safleoedd hyn, sydd yn gallu goddef lefelau uchel o fetalau yn y ddaear. Mae natur y mwynau hefyd o ddiddordeb yn y safleoedd hyn. Rhostir sych yw sail y diddordeb yn SSSI Banc Llety-spence, cynefin prin yng Ngheredigion. Glaswelltir asidaidd sych a glaswelltir asidaidd corsiog sydd o ddiddordeb ar Waun Troed-rhiw-seiri. Saif y rhan fwyaf o’r SSSIs ar dir preifat, ond mae mynediad i'r cyhoedd i SSSI Cwmsymlog.[4]
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Penrhyn-coch a Phen-bont Rhydybeddau, a phentrefannau Salem, Llwyn Prysg, Pen-rhiw-newydd, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc-y-Darren a Chefn Llwyd. Mae 5 o eglwysi yn y gymuned, sef Eglwys Sant Ioan (yr Eglwys yng Nghymru), Eglwys Horeb (Bedyddwyr), Eglwys Salem (Annibynwyr), Eglwys Siloa, Cwmerfyn (Annibynnol), Capel Madog (Methodistiaid Calfinaidd). Mae ysgol gynradd gymunedol ym Mhenrhyncoch, a hefyd Neuadd, clwb pêl-droed sy'n chwarae ar Gae Baker a chlwb cymdeithasol ganddi, maes chwarae i blant, a maes chwarae. Mae gan Ben-bont Rhydybeddau faes chwarae hefyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod meysydd parcio a llwybrau troed yn y coedwigoedd yng Ngogerddan a Phwll Crwn. Maent hefyd wedi gosod meysydd parcio a llwybrau beicio a cherdded ar y tiroedd o gwmpas y llynnoedd yng ngorllewin y gymuned.[5] Saif gorsaf fesur y tywydd Gogerddan rhwng IBERS a'r briffordd ers 1953. Cynhelir Eisteddfod a Sioe yn flynyddol yn Neuadd Penrhyncoch.
Mae’r creigiau yn naear Trefeurig yn deillio o ddechrau’r oes Silwraidd, o’r oesau Aeronaidd a Thelychaidd yng nghyfres Llanymddyfri. Cerrig llaid a silt yw’r rhain.[6] Digwyddodd sawl cyfnod o blygu yn y graig, o’r Oes Defonaidd i’r Oes Permaidd, a achosodd i ffawtiau ymddangos yn y graig. Llanwodd y ffawtiau gyda hylif poeth a wasgwyd trwy’r craciau o’r ddaear islaw. Cwarts sydd yn llanw’r ffawtiau yma yn bennaf, gyda pheth mwynau o blwm, arian, sinc a chopr. Mae canran y gwahanol fwynau yn wahanol o wythien i wythien. Mae gwythien Cwmsymlog yn gymharol drwm o arian[7] a gwythien y Daren yn gymharol drwm o gopr.[8][9]
Mae olion bod pobl wedi byw ym mro Trefeurig ers Oes Newydd y Cerrig. Yn 1986 cloddiodd archeolegwyr safle ar dir Gogerddan yn y cae trionglog rhwng yr A4159 ac IBERS. Darganfyddwyd safle claddu a seremoniau a ddefnyddiwyd o'r cyfnod Neolithig hyd at gyfnod yr Oesoedd Canol Cynnar. Grawn wedi llosgi oedd yr olion cynharaf, mewn pydew, sy'n dangos bod grawn yn cael ei dyfu gerllaw. Roedd yno hefyd faen hir, crugiau crwn, tyllau pyst, olion corfflosgi o Oes yr Haearn, a beddau ac olion cell o'r Oesoedd Canol Cynnar,[10] efallai o oes Sant Padarn, tua canol y 6g.[11] Gwyddwn bod y maen hir, a maen hir arall yr ochr arall i'r briffordd yn cael eu defnyddio gan deulu Gogerddan i ddynodi llinell dechrau'r rasys ceffylau a gynhalient yma yn ystod y 18g. Nid oes sicrwydd felly a ydy'r meini hirion hynny yn sefyll yno ers cyn hanes. Mae meini hirion eraill yn sefyll yma a thraw ar dir y gymuned ers cyn hanes, gan gynnwys Garreg Hir (Cyf. Grid SN703835) a Cherrig-yr-Wyn (Cyf. Grid SN685836). Yn 1923 symudwyd maen hir cwarts o Fanc Troed-rhiw-seiri i sgwâr y pentref i fod yn gofeb i feirwon y rhyfel byd cyntaf.[12] Fe gloddiwyd y crug cylchog sydd gerllaw safle gwreiddiol y maen hwn yn 1955, gan ddod o hyd i fedd o'r Oes Efydd Cynnar, ac amlosgiad o gyfnod y Rhufeiniaid. Roedd carn o gerrig ar Gae Baker eisoes wedi cael ei gloddio yn 1851 wrth glirio'r twmpath er mwyn aredig y cae. Darganfuwyd yno rhai esgyrn a phin tlws metal a llestr pridd a chwalodd wrth gydio ynddo.[13] Mae fflintiau ac offer cyntefig eraill wedi eu darganfod yma a thraw yn y dyffryn yng nghyffiniau Plas Gogerddan.[14] Yn 1994 darganfyddwyd pydew a cherrig wedi'u llosgi ynddo ym Mhenrhyn-canol tua 40m i'r de o Nant Seilo (Cyf. Grid SN642839). Tybir y byddai twmpath llosg wedi sefyll wrth ymyl y pydew yn yr Oes Efydd, ond bod gwaith aredig wedi ei chwalu ers hynny.[15] Mae twmpath llosg arall i gael yng Nghwm Sebon. Mae nifer o garnau i gael yn Nhrefeurig hefyd, gan gynnwys Garn Wen ar Fanc Cwm-isaf, carn Dolgau ar Fanc Trawsnant a charnau yng Nghaer Daren.
Pan ddaeth Lewis Morris i Gwmsymlog yng nghanol y 18g, adroddodd iddo weld olion hen ddull mwyngloddio yng ngwaith Twll-y-mwyn, Cwmsebon, ac offer cerrig yr honnai eu bod yn perthyn i fwynwyr cyn-hanesyddol. Gan nad oedd y creiriau hyn ar gael erbyn yr 20g, bu cryn ansicrwydd ynglŷn â'r honiadau hyn.[16] Ond ers diwedd yr 20g mae gwaith archaeolegol newydd wedi cael hyd i nifer o weithfeydd mwyn o Oes yr Efydd yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn Elenydd. Yn 2005 cafwyd hyd i ragor o forthwylion carreg ar ymylon gwaith Twll-y-mwyn, a thystiolaeth arall yn cadarnhau bod mwyngloddio yn digwydd yno yn Oes yr Efydd.[17][18]
Sefydlwyd bryngaerau yn Nhrefeurig yn ystod yr Oes Haearn, ym Mhen-gaer uwchlaw iard y bysys, a’r Daren. Daeth amlinelliad o gaer arall i’r golwg ger Alltfadog pan wnaethpwyd arolwg o’r awyr.[19]
Mae Sarn Helen yn croesi Trefeurig ar y ffordd rhwng caerau Rhufeinig Penllwyn ar lan afon Rheidol, trwy Penrhyn Canol ac heibio’r Cwrt, i Dalybont.[20] Yn 1998 darganfyddwyd celc o arian bath Rhufeinig wrth ymyl y ffordd ger Salem. Tybir iddo gael ei guddio yn negawd olaf y trydydd ganif OC.[21][22] Mae’r arian i’w weld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.
Yn ystod cyfnod goresgyn gogledd Ceredigion gan y Normaniaid ar ddechrau’r 12g, codwyd Castell Ystrad Peithyll ganddynt (Cyf Grid SN623824). Gosodasant dŵr pren ar ben twmpath a’i amgylchynu â ffos. Llosgwyd y castell gan fyddin Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr yn ystod gwrthryfel 1116.[23]
Yn ystod yr Oesoedd Canol, perthynai bro Trefeurig i gantref Penweddig. Rhanwyd y cantref yn 3 cwmwd, gan gynnwys Genau’r Glyn i’r gogledd o Afon Clarach a Pherfedd i’r de o afon Clarach hyd at afon Rheidol. O ran y drefn eglwysig Rhufeinig, roedd tir Trefeurig yn rhan o blwyf Llanbadarn Fawr. Gan fod y plwyf yn enfawr, fe’i rannwyd yn drefgorddau neu barseli gweinyddol, gan gynnwys trefgordd Trefeurig. Bryd hynny ymestynai Trefeurig heibio Pumlumon, gan gynnwys peth tir sydd heddiw ym Mhowys.[24] Yn 1894 sefydlwyd plwyfi sifil ym Mhrydain, gan gynnwys Plwyf Trefeurig, pob un a’i gyngor plwyf ei hunan. Roedd goruchwylion y cyngor plwyf yn cynnwys trwsio ffyrdd, diogelu hen siafftau a adawyd yn agored pan gaewyd y mwynfeydd a chyflenwi dŵr glân i’r trigolion. Cyngor y Plwyf oedd yn gyfrifol am godi pont Ty’n-gelli ar draws Nant Seilo yn 1924, ond erbyn codi’r bont newydd yn 1991 roedd llawer o gyfrifoldebau cynghorau plwyf wedi eu symud i’r cynghorau sir. Ar draul y Cyngor Sir felly y codwyd pont 1991.[25] Newidiodd teitl Trefeurig o Blwyf Trefeurig i Gymuned Trefeurig yn 1974, yn ôl termau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cafwyd adrefnu ffiniau’r gymuned yn 1987, gan ymestyn ffiniau’r plwyf ychydig i’r gogledd o Afonydd Clarach a Stewi, ac i’r de i diroedd Parsel Canol gynt, a chan grebachu ffin dwyreiniol y plwyf yn sylweddol.[26]
Enw'r gwaith mwyn | Cyfeirnod grid | Prif fwynau | Dyddiad cau | Gweithlu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|
Bronfloyd | SN660835 | ||||
Bwlch Cwmerfyn | SN703825 | Plwm, Arian | 1885 | ||
Caenant | SN708828 | Plwm | 1850 | ||
Cerrigyrwyn | SN687838 | Plwm | |||
Cwmdarren | SN681833 | Copr, Plwm | 1869 | ||
Cwmerfin | SN695828 | Plwm, Arian, Copr, Zinc | 1889 | ||
Cwmsebon | SN684830 | ||||
Cwmsymlog | SN699837 | Plwm, Arian | 1901 | ||
Daren | SN675828 | Plwm, Arian, Copr | 1879 | hefyd Daren Fawr | |
Gwaithyrafon | SN689839 | ||||
Llechweddhelyg | SN683847 | Plwm | 1861 | ||
Llechweddhen | SN664836 | Plwm | 1853 | ||
Penycefn | SN657856 | Plwm, Zinc, Arian | 1891 | hefyd Court Grange | |
Pwllrhenaid | SN706823 | Plwm, Arian | 1885 | ||
Rhosgoch | SN658826 | 1873 | |||
Twll-y-mwyn | SN684836 | Unwyd gyda Chwmdarren erbyn 1850 |
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[27][28][29][30]
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen