Math | tref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Mynwy |
Gefeilldref/i | Carbonne, Waldbronn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Gwy, Afon Mynwy |
Cyfesurynnau | 51.81°N 2.72°W |
Cod SYG | W04001076 |
Cod OS | SO505125 |
Cod post | NP25 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Trefynwy[1][2] (Saesneg: Monmouth). Dyma brif dref y sir. Saif ar lannau Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin o Lundain. Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohono'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. Ymroella Llwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref.
Enw'r papur bro lleol ydy Newyddion Mynwy sy'n cael ei gyhoeddi yn achlysurol gan Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r cylch. [3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[5]
Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC. Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers ychydig cyn dyfodiady Rhufeiniaid. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Gymru a Lloegr.[6]
Gorweddai Teyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yng ngorllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.
Roedd gan y Rhufeiniaid gaer yma, a alwyd yn Blestium. Cysylltwyd y dref gyda plethwaith o ffyrdd i drefi cyfagos: Glefiwm (Caerloyw) ac Isca Augusta (Caer Rufeinig Caerllion). Credir fod mwyngloddio haearn gerllaw yn Gobaniwm (y Fenni) ac Ariconiwm (Rhosan ar Wy).
Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Mae Pont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yng ngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth y Lancastriaid a hi ydy tref genedigol Harri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).
Yn 1536 fe'i gwnaed yn dref weinyddol Sir Fynwy.
Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli yn Nyffryn Afon Gwy a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[7] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Trefi
Brynbuga · Cas-gwent · Cil-y-coed · Y Fenni · Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Bryngwyn · Caer-went · Castellnewydd · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Hengastell · Little Mill · Llanarfan · Llan-arth · Llanbadog · Llancaeo · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llandogo · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Gobion · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llan-ffwyst · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · Sudbrook · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd