![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trelawnyd a Gwaenysgor ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3069°N 3.3659°W ![]() |
Cod OS | SJ090796 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Trelawnyd a Gwaenysgor, Sir y Fflint, Cymru, yw Trelawnyd ( ynganiad ). Newmarket oedd enw'r pentref rhwng 1710 ac 1954. Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua hanner ffordd rhwng Diserth i'r gorllewin a Trelogan i'r dwyrain. I'r gogledd ceir pentref Gwaenysgor. Rhed yr A5151 trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Ar bwys y pentref i'r gogledd, ceir Y Gop, bryn 250m sydd â lle arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd anferth, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru. Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae tua 100 medr o led. Credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.[3] Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol.
Mae Trelawnyd yn un o blwyfi hynafol Sir y Fflint. Bu'n wreiddiol yn rhan o blwyf Diserth, ond daeth yn blwyf arwahan rhywbryd rhwng 1254 ac 1291, gan gynnwys trefgorddau Gop, Graig, Pentreffyddion a Rhydlyfnwyd.[4]
Newidiwyd enw'r pentref i Newmarket (Cymraeg: "Marchnad Newydd") gan John Wynne o Gopa'rleni ym 1710,[5] drwy ennill cynneddf gan Gofrestra'r Esgob i'w newid. Roedd Wynne eisoes wedi ail-adeiladu rhan helaeth o'r pentref, a sefydlodd nifer o ddiwydiannau, marchnad wythnosol a ffair flynyddol.[4] Bwriad newid yr enw oedd i droi'r pentref yn dref farchnad ar gyfer yr ardal, ond methodd yr ymgyrch gan i'r Rhyl ddod yn brif dref marchnad yr ardal yn hytrach na Newmarket.[6] Parhaodd yr enw Newmarket hyd 1954, pan ail-enwyd y pentref yn swyddogol yn Drelawnyd.[4]
Ffurfiwyd Côr Meibion Trelawnyd ym 1933, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod y pentref. Tyfodd aelodaeth y côr a daeth William Humphreys, tad y llenor Emyr Humphreys yn gôr-feistr. Dros y blynyddoedd bu'n canu llai a llai, ond yn 1946 ailsefydlwyd y côr gan fynd o nerth i nerth. Enillodd y côr gystadleuaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Bala 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973. Mae'r côr yn dal i fynd hyd heddiw.[7]
Yn y pentref lleolir Ysgol Gynradd Trelawnyd, sef ysgol noddedig wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru, a tafarn y "Crown Inn" sy'n dyddio o'r 17g.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog