Tremella

Tremella mesenterica neu ymenyn y wrach.

Genws o ffwng yn y teulu Tremellaceae yw Tremella sy'n cynnwys 386 o rywogaethau cydnabyddedig.[1] Corff gelaidd sydd gan y sborocarp (corff hadol), a chan amlaf yn droellog neu fegis clustog. Mae'r mwyafrif ohonynt yn saproffytig, hynny yw maent yn cael maeth o fater marw a phydredig, megis coed. Nid oes sborocarp gan ambell rhywogaeth barasitig o'r genws, ac mae'r rhain yn bwydo ar sborocarpau ffyngau eraill.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Tremella Pers., GBIF Backbone Taxonomy (2016). Adalwyd ar GBIF.org ar 28 Mai 2017.
  2. (Saesneg) Tremella yn A Dictionary of Plant Sciences (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 7 Mai 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am fycoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.