Person digartref sydd yn teithio o un fan i'r llall fel crwydryn yw trempyn neu dramp.[1] Yn gyffredinol maent yn teithio er mwyn osgoi gwaith, tra bo hobos yn teithio i chwilio am waith. Weithiau bydd trampiaid yn gwneud mân swyddi er mwyn ennill arian, ond ar y cyfan maent yn cardota neu'n chwilota am sborion.