Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5894°N 3.1778°W |
Cod OS | ST185885 |
Cod post | CF83 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Pentref yng nghymuned Bedwas, Tretomos a Machen, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Tretomos neu Trethomas.[1][2] Saif ar briffordd yr A468, gerllaw Bedwas.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Sefydlwyd y dref fel Thomastown, yn bennaf gan William James Thomas, cyd-berchennog Glofa'r Navigation, Bedwas. Adeiladwyd y rhan gynharaf o'r pentref rhwng 1900 a 1913.
Caeodd y lofa yn 1985 yn ystod Streic y Glowyr, 1984-1985.
Mae gan y pentref glwb pêl-droed, Adar Glas Tretomos. Yn 2024-25 cyrhaeddon nhw ail rownd y Gwpan ond colli ar giciau o'r smotyn i Hwlffordd. Tretomos oedd yr unig dîm o gynghrair rhanbarthol i chwarae tîm o Uwch Gynghrair Cymru.[5]
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu