![]() Canol y pentref | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,687 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.116°N 3.118°W ![]() |
Cod SYG | W04000210 ![]() |
Cod OS | SJ252583 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Treuddyn[1][2] ( ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y briffordd A5104 i'r de o'r Wyddgrug. Cyfeirnod OS: SJ252583. Hen enw'r pentref oedd 'Tryddyn'.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Coed-talon, ychydig i'r dwyrain. Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys carneddi o Oes yr Efydd.
Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i'r Santes Fair, yn sefyll ar safle eglwys hynafol. Codwyd yr eglwys newydd yn 1875 a dim ond darnau gwydr ffenestr lliw o'r 14g sy'n weddill o'r hen eglwys. Ond mae'r llan o gwmpas yr eglwys, darn o dir dyrchafedig o ffurf grwn, yn hen.[3] Cyfeiria Gwyddoniadur Cymru at faen hir ym mynwent yr eglwys, ond does dim sôn am hynny yn yr arolwg o'r safle gan CPAT (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys).[3]
Ar un adeg roedd cryn dipyn o ddiwydiant yn yr ardal, gyda chloddio am lo, haearn a phlwm. Roedd distyllfa yma i ennill olew o'r glo, ac roedd ffwrnais chwyth yma o 1817 hyd 1865. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,567.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog