Torilis arvensis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Torilis |
Enw deuenwol | |
Torilis arvensis William Hudson (botanegydd) |
Planhigyn blodeuol ydy Troed-y-cyw ymdaenol sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae (sef persli). Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Torilis arvensis a'r enw Saesneg yw Spreading hedge-parsley. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Eilunberllys.
Mae'n frodorol o Ewrop ond fe'i cyflwynwyd i Ogledd America ble caiff ei ystyried yn chwynyn.
Llysieuyn blynyddol ydyw ac mae'n cynhyrchu bonyn talsyth, canghennog tua metr o uchder. Lleolir y dail bob yn ail, gyda phob un wedi'u rhannu'n barau ar ffurf cleddyfau danheddog tua 6 cm o hyd. Mae'r blodau'n glystyrau hir gwyn neu binc, gyda 5 petal ar bob un.