Lythrum portula | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Myrtales |
Teulu: | Lythraceae |
Genws: | Lythrum |
Rhywogaeth: | L. portula |
Enw deuenwol | |
Lythrum portula Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
Peplis portula |
Llysieuyn blodeuol lluosflwydd sy'n tyfu yn Ewrop yw Troed y gywen sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lythraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lythrum portula a'r enw Saesneg yw Water purslane.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Troed y Gywen, Porpin, Pwrpin.
Mae'n tyfu i uchder o 15 cm, fel arfer mewn gwlyptir. Gosodir y dail mewn parau cyferbyn a'i gilydd, a thyf petalau'r blodyn o wefus tiwb y blodamlen (y calycs). Mae'r blodau'n nodweddiadol o'r teulu hwn gan fod y petalau wedi'u crychu fel hen femrwn.