Enghraifft o'r canlynol | trychineb |
---|---|
Dyddiad | 1999 |
Lladdwyd | 27,500 ±23000 |
Dechreuwyd | 1999 |
Daeth i ben | 1999 |
Lleoliad | Vargas state |
Rhanbarth | Vargas state |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tirlithriadau a darodd talaith Vargas, Feneswela, ar 14–16 Rhagfyr 1999 gan ladd rhwng 10,000 a 30,000 o bobl oedd trychineb Vargas.
Dros deng niwrnod ym mis Rhagfyr, dymchwelodd glawogydd trymion ar fynyddoedd Feneswela. Effeithiodd fwyaf ar yr ardaloedd arfordirol yng ngogledd y wlad, wrth i'r glaw achosi llifoedd sydyn o laid. Yn ogystal â'r tirlithriadau, effeithwyd yr ardal gan lifogydd trymion.
Mor gynnar â 6 Rhagfyr, datganwyd argyfwng yn nhalaith Vargas a chafodd tua 190,000 o bobl eu symud. Er yr ymdrechion, cafodd nifer fawr o bobl eu lladd wrth i'r llithriadau mwd a llifogydd chwalu slymiau a threfi cytiau'r ardal.[1]