Tsiow Tsiow

Tsiow Tsiow
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ci sy'n tarddu o Tsieina yw'r Tsiow Tsiow neu'r Tsiow (ffurfiau lluosog: Tsiowiaid, Tsiows).[1]

Mae ganddo gorff byrdew gyda phen mawr a chôt drwchus sy'n ffurfio gwrych blewog am ei wddf. Cynffon fodrwyog sydd ganddo, yn debyg i sbits. Mae'r gôt ddwbl yn cynnwys haen isaf feddal ac haen dew uchaf o flew syth. Gall fod o nifer o liwiau, gan amlaf browngoch, du, neu lwydlas. Mae'n sefyll 43 i 51 cm ac yn pwyso 20 i 32 kg. Un o nodweddion neilltuol y Tsiow Tsiow yw ei dafod, sydd o liw glasddu.[2]

Perthynas enetig agos iawn sydd ganddo i'r blaidd, ac mae'n un o'r bridiau hynaf o gŵn yn y byd.[2] O bosib mae'n disgyn o'r Gafaelgi Tibetaidd neu'r Samoied. Yn ôl rhai, awgryma'i dafod unigryw taw brîd sylfaenol yw'r Tsiow Tsiow ac felly hynafiad y Samoied, y Keeshond, y Ci Ceirw Norwyaidd, a'r Ci Pomeranaidd.[3] Defnyddid i hela yn ystod oes y Han, rhyw dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Erbyn heddiw fe'i gedwir fel ci cymar ac anwes, a chanddo dymer ffyddlon ond yn ymddwyn yn ddistaw i bobl ddieithr.[2] Cymreigiad o'r Saesneg chow-chow yw'r enw, sef gair pidgin am lwythi'r cychod nwyddau a hwyliodd o Tsieina i Loegr ar ddiwedd y 18g. Roedd y ci hwn ymhlith yr amrywiol bethau Tsieineaidd a fewnforiwyd i Brydain.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, [chow].
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Chow chow. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Medi 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Chow chow, The Columbia Encyclopedia (Encyclopedia.com). Adalwyd ar 9 Medi 2016.