Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Tulasana (Sansgrit: तुलासन; IAST: Tulāsana), Asana Cydbwysedd,[1] Dolasana (Y Siglen),[2] Tolasana (Y Glorian),[3][4] neu Utthita Padmasana (Lotws Uchel)[5]. Asana cydbwyso ar y dwylo yw hwn, mewn gwirionedd ac fe'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer cadw'n heini.
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit tula (तुला) sy'n golygu "cydbwysedd",[6] ac asana (आसन, āsana) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[7]
Nid yw'r asana hwn yn cael ei ddisgrifio yn y testunau Ioga Hatha canoloesol. Ymddengys yn gyntaf yn First Steps to Higher Yoga 1970 ,[8] ac yn Light on Yoga BKS Iyengar ym 1966 lle mae'n cael ei sillafu fel Tolasana).[9]
O'r siap Padmasana (safle Lotws), mae'r ymarferydd gyda'r cledrau wedi'u gosod ar y llawr bob ochr i'r cluniau'n codi'r torso cyfan a phlethu'r coesau gan ddefnyddio'r breichiau a'r ysgwyddau.