Yn 2016 bu cynnydd o 11% yn nifer yr ymweliadau tramor â Chymru (1.074 miliwn) o gymharu â'r flwyddyn gynt, a chynnydd o 8% yn faint o arian gafodd ei wario ar yr ymweliadau â Chymru (£444 miliwn).[1]
Mae economi sawl tref ar hyd arfordir y gogledd yn dibynnu ar y diwydiant ymwelwyr, gan gynnwys y Rhyl, Bae Colwyn, Conwy, a Llandudno.
Mae twristiaeth hefyd yn bwysig i drefi ar lannau Bae Ceredigion, megis Harlech, y Bermo, Aberdyfi, Tywyn, Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, ac Abergwaun. Yn y gorllewin mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Denir ymwelwyr hefyd gan draethau de Cymru, yn enwedig Penrhyn Gŵyr, Porthcawl, ac Ynys y Barri. Ystyrir Traeth Rhosili yn un o draethau gorau'r byd.[2]
Mae llongau fferi yn hwylio o Gaergybi ac Abergwaun i Iwerddon. Y farchnad fordeithiau yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac mae nifer cynyddol o ymwelwyr o'r Almaen yn dod i'r de-orllewin trwy fordeithiau sy'n aros yn Abertawe, Aberdaugleddau, Penfro, ac Abergwaun.[3]
Mae twristiaeth bwyd yn ddiwydiant ar ei brifiant yng Nghymru.