Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | spotted fever, clefyd |
Dull trosglwyddo | Amblyomma hebraeum, amblyomma variegatum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd (ATBF) yw haint bacteriol sy'n cael ei ledaenu gan frathiad torogen. Gall symptomau gynnwys twymyn, cur pen, poenau yn y cyhyrau, a brech. Fel arfer, ar safle'r brathiad ei hun, mae'r croen yn cochi'n sylweddol a cheir canolbwynt tywyll i'r rhan honno.[1] Mae symptomau fel arfer yn dod i'r amlwg 4-10 diwrnod wedi'r brathiad. Ni achosir cymhlethdodau’n aml, serch hynny, gall y pigiadau achosi i gymalau chwyddo. Nid yw rhai dioddefwyr yn datblygu symptomau o gwbl.[2]
Achosir y clefyd gan y bacteriwm Rickettsia africae.[3] Lledaenir y bacteriwm gan drogod o'r math Amblyomma. Fel arfer, mae'r rhain yn ymgartrefu mewn glaswellt neu lwyn tal yn hytrach nag mewn dinasoedd. Mae'r symptomau fel arfer yn arwain at ddiagnosis.[4] Gellir cadarnhau'r cyflwr wrth ystyried diwylliant, PCR, neu imiwnofflworoleuedd.
Ni cheir pigiad i drin y cyflwr. Mae osgoi brathiad yn un o'r camau amddiffynnol gorau, a ellir gwneud hynny drwy orchuddio'r croen gyda DEET, neu ddefnyddio dillad trin trwdrin. Fodd bynnag, ni cheir llawer o dystiolaeth ynghylch triniaethau posib. Mae'r gwrthfiotig doxycycline yn ymddangos yn effeithiol. Gellir defnyddio cloramffenicol neu azithromycin hefyd. Fel arfer, y mae'r afiechyd yn cilio heb driniaeth o gwbl.
Lledaena'r afiechyd yn Affrica Is-Sahara, India'r Gorllewin, ac yn Ynysoedd y De.[5] Mae'n gymharol gyffredin ymhlith teithwyr i Affrica Is-Sahara. Caiff y rhan fwyaf o heintiau eu dal rhwng Tachwedd ac Ebrill. Gellir cael ffrwydrad o achosion yn ystod y cyfnod hwn. Yn ôl y sôn, disgrifiwyd y clefyd am y tro cyntaf ym 1911. Mae Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd yn dwymyn frych. Caiff ei gamgymryd yn aml fel twymyn Môr y Canoldir.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)