Tyfrydog | |
---|---|
Ganwyd | 6 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Cysylltir gyda | Llandyfrydog ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Ionawr ![]() |
Sant Cymreig oedd Tyfrydog (bl. 6C). Ef a sefydlodd eglwys Llandyfrydog ar ynys Môn, yn ôl traddodiad. Dethlir gŵyl Tyfrydog ar Ddydd Calan (1 Ionawr).
Ychydig iawn o wybodaeth sydd amdano. Yn ôl achau'r saint, roedd yn un o feibion Arwystli Gloff gan Dynwynedd ferch Amlawdd Wledig, ac felly o dras frenhinol.[1]
Ceir hanesyn gan Gerallt Gymro am 'ddial' y sant ar Huw Flaidd, Iarll Caer, yn 1098. Yn ôl Gerallt,
Lladdwyd Huw Flaidd fis ar ôl hynny gan Magnus III, brenin Norwy, mewn brwydr ar Afon Menai.