Tzachi HaLevy

Tzachi HaLevy
Ganwyd12 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Petah Tikva Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, cyfranogwr ar raglen deledu byw, cerddor, canwr, brand ambassador, celebrity branding Edit this on Wikidata
PriodLucy Aharish, Una Holbrook Edit this on Wikidata
Gwobr/auOphir Award for Best Leading Actor Edit this on Wikidata

Mae Tzachi Halevy (neu Tsahi HaLevi neu Tzachi HaLevy, Hebraeg: צחי הלוי; ganed 12 Mawrth 1975) yn actor a chanwr adnabyddus ar ffilm a theledu Israel. Mae hefyd wedi dod yn fwy adnabyddus y tu allan i'w famlwad yn sgil darlledu rhaglenni Israeli ar sianeli teledu fel Netflix ac Amazon Prime.

Bywyd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Halevy yn Petah Tikva, Israel.[1] yn fab i dad oedd yn Iddew o Moroco a mam yn Iddewes Iemen. Gan fod ei dad yn gweithio yn swyddfa Prif Weinidog Israel fe deithiodd HaLevy i sawl gwlad fel plentyn.[2] Yn ystod ei wasanaeth filwrol yn Lluoedd Amddiffyn Israel fe weithiodd yn gudd gyda llu arbennig Uned Samson oedd yn canolbwyntio ar gyrchoedd milwrol cudd a chudd-wybodaeth yn erbyn gwrthryfelwyr Paltesteinaidd yn Gaza. Gwasanaethodd yn hwyrach fel swyddog yn Uned Duvdevan, sy'n uned cyrchoedd arbennig elite sy'n nodedig am eu cyrchoedd mewn manau trefol lle byddant yn gwisgo dillad Arabaidd fel cuddwisg.

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o'r grwp perfformio Mayumana sy'n cyfuno dawns, cân ac offerynnau taro ers 1999.

Daeth Halevy i enwogrwydd yn 2012 pan aeth i rownd derfynnol (ond nid ennill) cystadleuaeth realiti sioe The Voice Israel. Wedi'r ymddangosiad yma gweithidd ar ei albwm gyntaf, "Kivvunim" ("Cyfeiriadau"), a ryddhawyd yn 2012. Yn 2014, cydweithiodd gydag Idan Raichel ac ysgrifennu cân Ffrangeg, "Petit Roi". Yn 2015, rhyddhaodd y sengl "Tamali Ma'aek" (تملي معاك),[3] fersiwn 'cover' o'r gân Arabeg a berfformiodd mewn sîn enwog yn y gyfres Fauda.[4] Mae'n ymuno ag aelod arall o gast Fauda sydd hefyd yn cyfansoddi a chanu, Idan Amedi.

2012 dechreuodd ei yrfa actio gan ymddangos yn Theatr Habima a Theatr Haifa.
2013, serenodd yn y ffilm Bethlehem, enillydd Gwobr Ophir am y ffilm orau. Portreadodd 'Razi', asiant gwasanaeth cudd Shin Bet. Enillodd Halevy Wobr yn bersonol fel Actor Cynorthwyol Orau am ei berfformiad.[5]
2014, portreadu 'Shlomi Daddon' ar gyfers deledu Israel Metim LeRega a hefyd fel 'Haim Toledano' yn y gyfres Bettulot.
2015 Portreadodd 'Naor', aelod o'r uned cudd yn y Mista'arvim yn y gyfres hynod o lwyddiannus, Fauda.[6] Dyma'r gyfres daeth ag ei amlygrwydd ymysg cynulleidfa y tu allan i Israel.
2016, chwaraeodd rhan fach yn y gyfres Hostages sydd hefyd wedi ymddangos ar deledu ym Mhrydain.
2017, ymddangos yn ail gyfres deledu Mossad 101 fel dihiryn, 'Liron Harriri', sydd hefyd wedi ymddangos ar deledu ym Mhrydain.

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Bu'n byw yn ninas Tel Aviv ers yr 1990au hwyr.

Mae wedi ysgaru oddi wrth y dawnswraig Israeli, Una Holbrook, ac mae ganddo fab ganddi.

Ar 10 Hydref 2018 priododd y ddarlledwraig adnabyddus Arab-Israeli, Lucy Aharish, mewn seremoni breifat.[7] Ni all parau o wahanol grefydd briodi ei gilydd yn gyfreithlon yn Israel.[8]

Achosodd y briodas rhwng Iddew ac Arab Fwslemaidd i un aelod o senedd Israel, Oren Hazan, o'r blaid Likud, gyhuddo Lucy Aharish o "hud-ddenu Iddew".[9] Aeth Hazan yn bellach gan ddweud, “I do blame Tzachi 'the Islamicizing' Halevy, who took Fauda a step too far – Bro stop being delusional. Lucy, it’s not personal, but you should know Tzachi is my brother and the Jewish people are my people, stop the assimilation!”

Derbyniodd y cwpwl llythryau casineb ac yn sgil un ohonynt, cyfansoddodd Tzachi gân yn seiliedig ar eiriau'r llythyr.[10]

Ffilmograffi

[golygu | golygu cod]
  • Bethlehem (2013)
  • The Kind Words (2015)
  • Mary Magdalene (2018)
  • The Angel (2018) - chwarae rhan yr unben Libya, Muammar al-Gaddafi

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Metim LeRega (2014)
  • Bettulot (2014)
  • Fauda (2015)
  • Mossad 101 (2017)
  • Full Moon (2017)

Amlieithog

[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei fagwraeth yn teithio gyda'i deulu, mae HaLevy yn siarad pump iaith: Hebraeg, Arabeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Denmarc a Cairo.[11]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]