Enghraifft o'r canlynol | skyscraper fire, trychineb |
---|---|
Dyddiad | 14 Mehefin 2017 |
Lladdwyd | 72 |
Lleoliad | Tŵr Grenfell |
Gwefan | https://www.grenfelltowerinquiry.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llosgwyd bloc o fflatiau Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain, ar 14 Mehefin 2017. Roedd gan y bloc 24-llawr, roedd yn 220-troedfedd (67 m) o uchder, a'i breswylwyr oedd tenantiaid a leolwyd yno gan y cyngor lleol: Cyngor Kensington. Roedd cyfanswm o 120 o fflatiau yn y bloc: pob un gydag un neu ddwy lofft.[1] Yn ôl Université catholique de Louvain, dyma'r tân gwaethaf yng ngwledydd Prydain ers 1900. Erbyn 20 Mehefin daethpwyd o hyd i 79 o gyrff ac ni wyddys sut y cynheuwyd y tân, ond ni chredir ei fod yn fwriadol.
Hysbyswyd y gwasanaethau argyfwng am 00:54 (BRST) ar 14 Mehefin 2017 ac roedd y tân yn dal i losgi 24 wedyn.[2] O fewn yr awr neu ddwy cyntaf gwelwyd 45 injan dân a channoedd o staff diffodd tân wrthi'n ceisio'i ddiffodd. Achubwyd 65 o bobl gan y staff ymladd tân.[3]
Oherwydd y modd y lledodd y tân mor sydyn, rhoddwyd y bai ar y cladin a roddwyd ar du allan y waliau er mwyn ei harddu. Yn ôl rhai, roedd y cladin hwn yn llosgadwy ac wedi ei wahardd drwy Ewrop. Roedd Sadiq Khan, Maer Llundain, yn llawdrwm ar fethiant y canllawiau tân, y cyfarwyddyd gan y gwasanaethau tân y dylai'r preswylwyr aros yn eu fflatiau ac am y modd y methodd Cyngor Kensington ddelio gyda'r argyfwng. Beirniadwyd y Prif Weinidog Theresa May yn hallt am beidio a chyfarfod teuluoedd y rhai a laddwyd. Cyhoeddodd y byddai'n rhyddhau cronfa o £5 miliwn ar gyfer y rhai a oedd yn dioddef.
|deadurl=
ignored (help)