Tír na nÓg yw "Gwlad yr Ieuenctid" ym mytholeg Gwyddelig a'r Wyddeleg ei hun (tír: gwlad; na: yr; nÓg: ieuenctid, sydd yr un peth o ran strwythur geiriol â'r Gymraeg). Mae'n wlad arallfydol baradwysaidd lle na cheir na haint, na henaint, nac angau. Mae'n gorwedd y tu hwnt i fyd y ddynoliaeth. Yn y chwedl Wyddeleg gynnar Immram Brain (maic Febail)(Mordaith Brân (ap Febail)), y mae'r arwr Brain a'i gyd-ymdeithion yn ymweld ag ynys sy'n cynrychioli Tír na nÓg.
Cyfansoddodd y bardd T. Gwynn Jones awdl delynegol o'r enw 'Tir na n-Óg' sy'n sôn am gariad Osian a Nia Ben Aur, merch brenin Tír na n-Óg.