Math | ffug-dŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanarthne |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 171.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.8518°N 4.11977°W |
Cod OS | SN540191 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Ffoledd neo-Gothig ar ben bryn ger pentref Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yw Tŵr Paxton (weithiau Cofeb Nelson). Mae'n adeilad rhestredig Gradd II* dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r safle'n rhoi golygfa o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Dyffryn Tywi.
Adeiladwyd y tŵr yn fuan ar ôl 1805 gan Syr William Paxton (1844–1824) fel cofeb i'r arwr cenedlaethol Horatio Nelson (1758–1805). Y pensaer oedd Samuel Pepys Cockerell (1753–1827). Mae'r llawrgynllun yn drionglog gyda thwr crwn ym mhob cornel. Y bwriad oedd defnyddio'r llawr cyntaf fel neuadd wledda. Ar ben y prif strwythur trionglog â thri llawr saif tyred chweonglog; roedd y tyred hwn gynt yn wylfa, er bod ei ffenestri bellach wedi'u blocio gan feini. Yn wreiddiol roedd placiau ag arysgrifau yn Gymraeg, Lladin a Saesneg ar y tri wyneb, ond mae'r rhain bellach wedi diflannu.