Math | adeilad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy ![]() |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 17 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.809497°N 2.7233°W, 51.8095°N 2.7231°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Mae Tŷ Drybridge, Trefynwy yn adeilad o'r 17g wedi'i leoli yn Nhrefynwy, Sir Fynwy ac sydd wedi'i gofrestru gan CADW fel adeilad Gradd II*. Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin y dref, yn agos at "bont sych" dros nant fechan, sydd bellach dan gylchfan y ffordd. Mae'n un o 24 adeilad ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.
Yn 1558 y codwyd y tŷ gwreiddiol: ffermdy du a gwyn, o bosib; codwyd y tŷ presennol yn 1671 gan William Roberts o Fynwy a oedd yn "Receiver and Paymaster of the King's Works" yng Nghastell Windsor. Un o'i ddisgynyddion Charles Henry Crompton-Roberts a atgyweiriodd y tŷ yn 1867; roedd yn Uwch Siryf Sir Fynwy yn 1877.[1]
Bu'r lle yn nwylo teulu Crompton-Roberts am 400 mlynedd, teulu a fu'n gefnogol iawn i'r dref.