Ceir nifer o unedau mesur Cymreig, traddodiadol a ddefnyddid hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol,
Arferai'r Cymry ddefnyddio rhannau o'u cyrff i fesur, er enghraifft y troed-fedd, ac felly'n disgrifio maint neu hyd rhywbeth drwy ddewis yr uned mwyaf addas i wneud y cyfrif. Datblygodd cyfuniad geiriol o sawl enw ar ran o'r corff gyda'r gair "medd" yn fynegiant ar fesur hyd neu faint. Mae rhai enghreifftiau a ddefnyddir o hyd, sef "modfedd", "troedfedd", "rhyfedd" a "thonfedd". Seiliwyd llawer o'r mesurau traddodiadol hyn ar y gair "medd", neu "feddiant", "nerth" neu "fesur".[1] Er enghraifft, tardd "troedfedd" o'r dweud "troed a fedd".
Y Brenin Dyfnwal Moelmud a gofnododd dulliau mesur Cymreig am y tro cyntaf ac fe'u cofnodwyd ymhellach gan y Brenin Hywel Dda[2]. Os oedd dadl neu wrthdaro ynglŷn â mesuriad byddai'n rhaid i'r barnwr yn y llys ddefnyddio ei gorff ei hun i fesur ac i wneud penderfyniad[3].
Ceir hen eiriau Cymraeg ar fesuriadau fel a ganlyn:
- Gewin-fedd - Lled gewin - a ddatblygodd yn "ewinfedd"[4]
- Bys-fedd - Lled bys - a ddatblygodd yn "bysfedd"[5]
- Bawd-fedd - Hyd bawd - a ddatblygodd yn bodfedd ac, yn ddiweddarach, yn "modfedd"[6]
- Llaw-fedd - Lled neu rychwant llaw - a ddatblygodd yn "llofedd"[7]
- Dwrn-fedd - Lled dwrn - a ddatblygodd yn "dyrnfedd"[8]
- Troed-fedd - Hyd troed - sef "troedfedd"[9]
Defnyddid hefyd "dyrnfedd gorniog"[10] - sef lled llaw agored, rhychwant llaw, gyda'r bawd wedi ei ymestyn.
Roedd rhai pethau yn rhy fawr neu wahanol i'w mesur. Y rhai hynny oedd yn rhy-fedd - yn amhosib ei fesur, neu 'rhyfedd'.[11]
Yr un tarddiad sydd i tonfedd[12] (wavelength) - ton-fedd.
Nid oes sicrwydd mai rhif-fedd, sef mesur rhifau yw rhifedd.[13]
Roedd dau ddull yn bodoli: Dull Gwynedd (neu Ogledd Cymru) a Dull y Deheubarth (De Cymru).
Yn null Gwynedd y prif fesuriad oedd yr "erw", a diffiniwyd hynny o fewn y Cyfreithiau Cymreig yn fanwl. Lled erw oedd cymaint ag y gallai dyn ei gyrraedd (yn y ddau gyfeiriad) gydag un prociad o'r ychen, a'i led oedd "tri-deg gwaith hyd dau 'iau hir' (roedd 'iau hir' yn mesur 16 troedfedd)".
O'r erw, gellid cyfrifo isrannau:
Noda Geiriadur Prifysgol Cymru:
- "gwialen" neu "ffon": "yn wr. 18 troedfedd, yn cyfateb i 13.5 o droedfeddi modern) i fesur tir, erwydden, perc, ystang, pren naw, paladr; hyd y cyfryw wialen o dir; mesur tir o amrywiol faint (fel rheol 30 perc (o 13.5 o droedfeddi modern) o hyd ac un perc o led, sef 607.5 o lathenni sgwâr; yr oedd pedwar ohonynt yn gwneud acer gyffredin fechan o 2430 o lathenni sgwâr, a phump a thraean yn gwneud erw gyffredin fawr o 3240 o lathenni sgwâr); (yr ystyr gyff. bellach) mesur hyd safonol, sef 3 troedfedd neu 36 o fodfeddi; ffon neu dâp mesur o’r hyd hwnnw, hefyd yn ffig.; y cyfryw hyd o frethyn, hynny o bellter, &c., llathaid"[26] Gweler hefyd llath.
- "erw": "Mesur Cymreig o dir (amrywia’r mesur yn fawr mewn gwahanol rannau o Gymru) a’i faint yn seiliedig ar wialen Hywel Dda neu ar hyd hiriau’r aradr; y mae’n gyffelyb i’r bovate Seisnig, a chyfetyb i bedwar cyfar yng Ngwynedd."[27]
- "rhandir": "Uned diriogaethol (yn y cyfreithiau Cymreig) a’i maint yn amrywio o un erw ar bymtheg i dri chant a deuddeg o erwau."[19] Ceir y cofnod cyntaf o'r gair yn Llyfr Iorwerth: "petwar tedyn em pob rantyr; pedeyr rantyr em pob gauael" a hefyd: "pedeyr eru keureythyaul em pob teden; un ar pymthec em pob rantyr".
- "gafael": "Daliad o dir etifeddol dan y gyfundrefn lwythol Gymreig yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml mewn parseli o dir, gan ffurfio rhan o’r ‘gwely’, is-wely, rhan, deiliadaeth."[20]
- "maenol" neu "maenor": "maenor yw’r ffurf yn llyfrau cyfraith y De, maenol yn llyfrau’r Gogledd." Noda GPC hefyd: "Uned diriogaethol a gweinyddol yng Nghymru gynt a gynhwysai nifer amrywiol o drefi yn ôl gwahanol fersiynau o’r Cyfreithiau, yn dros. ardal (gynhyrchiol), bro, gwlad; dyffryn, dôl; maenoriaeth, arglwyddiaeth..."[28]
Mae'r dull yma o fesur arwynebedd ychydig yn wahanol:
- 2 ffon × 18 ffon = 1 erw
- 312 erw = 1 rhandir (Saesn: shareland)
- 3 rhandir (a ddeilir gan daeog) = 1 taeoctref (Cym. mod.: "taeog dref")
- 4 rhandir (rhydd-ddaliad) = 1 tref rydd
- 7 taeoctref (taeogtref) = 1 maenor yr iseldir (Cymraeg Canol: maenaỽr vro) = 936 erw
- 12 tref rydd (Cymraeg Canol: tref ryd = 1 maenor yr ucheldir (Cymraeg Canol: maenaỽr vrthtir) = 1248 erw
Mesuriadau o'r dyddiaduron amaeth
- jygyn o wair neu redyn (Bwlchtocyn)
- baich o wair, eithin, rhiwbob (Pen Llŷn a Sir Ddinbych)
- clenc o wair (Llansilyn, Dinbych)
- slatied o wair, rhedyn neu bolion
- siwrna o ddwr (Llangristiolus)