Upton Sinclair | |
---|---|
Ffugenw | Clarke Fitch, Arthur Stirling, Frederick Garrison |
Ganwyd | 20 Medi 1878 Baltimore |
Bu farw | 25 Tachwedd 1968 Bound Brook |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, cynhyrchydd ffilm, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol, diategydd, gwleidydd, bardd, dramodydd |
Adnabyddus am | The Jungle, King Coal, Oil! |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd America, plaid Ddemocrataidd |
Tad | Upton Beall Sinclair |
Mam | Priscilla Augusta Harden |
Gwobr/au | Gwobr Pulitzer am Ffuglen |
llofnod | |
Llenor Americanwr oedd Upton Beall Sinclair Jr. (20 Medi 1878 – 25 Tachwedd 1968). Ei waith enwocaf yw'r nofel The Jungle (1906) a wnaeth amlygu amodau yn y diwydiant pacio cig. Ysgrifennodd hefyd y nofel Oil! (1927), a gafodd ei haddasu'n ffilm, There Will Be Blood, yn 2007. Roedd yn nofelydd Americanaidd toreithiog ac yn ddadleuwr dros sosialaeth, iechyd, dirwest, rhyddid barn a hawliau gweithwyr, ymhlith achosion eraill. Roedd nifer o'i nofelau yn yr arddull cribo baw (Saes.muck raking). Yn wreiddiol newyddiadurwyr ymchwiliol oedd y cribwr baw ond bu nofelwyr fel Sinclair yn defnyddio ymchwil tebyg i ymddygiad annheg a llwgr i greu nofelau er mwyn cymeriadu'r effaith roedd yr annhegwch yn cael ar bobl.[1]
Ganwyd Sinclair yn Baltimore, Maryland yn fab i Upton Beall Sinclair yr hynaf a Priscilla Harden ei wraig. Roedd ei dad yn werthwr diodydd meddwol tra fo ei fam yn Eglwyswraig oedd yn gadarn dros yr achos dirwest. Doedd ei dad ddim yn llwyddiannus yn ei gwaith, yn rhannol oherwydd ei fod yn alcoholig, gan hynny magwyd Sinclair mewn tlodi.[2] Doedd o ddim yn dod ymlaen gyda'i rieni ac yn 16 mlwydd oed ymadawodd a chartref y teulu.[3] Wedi ymadael a'i rieni gwariodd rhywfaint o amser gyda'i fodryb oedd wedi priodi miliwnydd a'i thaid a nain famol oedd hefyd yn bobl gefnog. Gan hynny cafodd profiad yn ei ieuenctid o fyw ymysg tlodi mawr ac o fyw ymysg cyfoeth mawr. Roedd yn honni bod ei brofiad o fywyd ar y ddau eithaf yn achos ei gredoau sosialaidd.
Gan fod ei deulu yn symud o gwmpas y wlad brin oedd manteision addysg Sinclair. Dechreuodd mynychu'r ysgol yn 10 mlwydd oed a bu'n rhaid iddo gweithion galed i dal fynnu efo ei gyfoedion. Yn 14 mlwydd oed aeth i City Collage, Efrog Newydd.[3] Talodd ffioedd yr ysgol trwy sgwennu jôcs, gwneud cartwnau ac ysgrifennu straeon anterth fyrion ar gyfer cylchgronau.[2] Wedi ymadael a City Collage aeth i brifysgol Columbia i ddysgu'r gyfraith.[4] Wrth astudio'r gyfraith dysgodd defnyddio peiriant stenograffydd, y peiriant a defnyddiwyd mewn llysoedd i greu cofnodion ar y pryd o'r hyn oedd yn cael ei ddweud gan dystion, cyfreithwyr a'r barnwr. Trwy ddefnyddio'r stenograffydd roedd yn gallu cyhoeddi nofelau yn weddol sydyn.
Bu'n briod teirgwaith. Ym mis Hydref 1900 priododd Meta Fuller, bu iddynt un mab.[5] Ym 1911 gadawodd Meta Upton er mwyn cael perthynas a'r bardd Harry Kemp. Ym 1913 priododd Mary Craig Kimbourgh bu'n briod a hi hyd ei marwolaeth ym 1961. Priododd Mary Willis, ei drydedd wraig ychydig wedi marwolaeth ei ail wraig.
Cafodd ei lyfrau cyntaf derbyniad beirniadol da ond prin oedd eu gwerthiant.
Newidiodd ei statws fel awdur yn ddramatig ym 1905, ar ôl i'r wythnosolyn sosialaidd Appeal to Reason danfon Sinclair i wneud ymchwilio dirgel i amodau yn storfeydd Chicago. Canlyniad ei ymchwiliad saith wythnos oedd The Jungle, a gyhoeddwyd gyntaf mewn ffurf gyfresol gan Appeal to Reason ym 1905 ac yna fel llyfr ym 1906. Y bwriadwyd oedd creu cydymdeimlad a'r mewnfudwyr oedd yn cael eu hecsploetio wrth weithio yn y diwydiant cig. Yn lle hynny cododd y nofel anniddigrwydd cyhoeddus eang am ansawdd isel a chynhwysion gwael cig wedi prosesu.[6] Dywedodd Sinclair ar y pryd, "Roeddwn i'n anelu at galonnau'r cyhoedd ond trwy ddamwain wnes daro eu stumogau." Wedi'r ymateb i gyhoeddi'r llyfr collodd cig wedi prosesu o'r UDA hanner ei werthiant. Rhoddwyd pwysau ar y llywodraeth i basio deddfau yn ymwneud ac arolygu trin cigoedd a deddf safonau bwyd a chyffuriau.
Ym 1911 ysgrifennodd Sinclair nofel Love's Pilgrimage sydd yn ymdrin â'i briodas a genedigaeth ei blentyn gyda didwylledd a syfrdanodd rai beirniaid. Ym 1913 a 1914 cyhoeddwyd y nofelau Sylvia a Sylvia's Marriage, stori dwy ran yn ymdrin â bywyd hogan o de'r Unol Daleithiau a'i deffroad rhywiol. Mae'n debyg bod Mary ei ail wraig wedi ysgrifennu rhannau o'r ddau lyfr.
Parhaodd i gyhoeddi nofelau cribo baw gyda King Coal (1917), sy'n ymwneud â'r amodau gwaith gwael yn y diwydiant glo.[7] Yn The Brass Check (1919), roedd Sinclair yn mynd i'r afael â'r buddiannau ariannol a chelwydd y syniad o "wasg rydd" y papurau newydd mawr a'r "newyddiaduraeth felen" roeddynt yn defnyddio i ddenu darllenwyr.[8][9] Roedd ei nofel Oil! (1927) yn ymdrin â llygredigaeth yng ngweinyddiaeth Warren G Harding., defnyddiwyd y nofel yn sail i'r ffilm 2007 There Will Be Blood (2007) a enillodd dwy Wobr yr Academi. Roedd Boston (1928) yn cael ei ysbrydoli gan yr achos Sacco-Vanzetti. Mae ei nofel The Wet Parade (1931; a drowyd yn ffilm 1932) yn ymwneud â thrasiedi alcoholiaeth, ac mae The Flivver King (1937) yn adrodd hanes Henry Ford a sut y bu "rheolaeth wyddonol" yn disodli gweithwyr medrus yn y diwydiant moduro.
Wedi'i ysbrydoli gan daith trwy goedwigoedd gogleddol California ym 1936, ysgrifennodd Sinclair stori plant o'r enw The Gnomobile. Roedd yn un o'r llyfrau cyntaf i blant â neges amgylcheddol, ac fe'i haddaswyd yn ddiweddarach yn ffilm gan Walt Disney ym 1967.
Rhwng 1940 a 1953 ysgrifennodd Sinclair cyfres o 11 o nofelau hanesyddol cyfoes gyda phrif gymeriad o'r enw Lanny Budd. Roedd Lanny Bud yn fab i wneuthurwr arfau Americanaidd sydd yn defnyddio ei gysylltiadau ag arweinwyr y byd i effeithio ar faterion y dydd. Enillodd 3ydd llyfr y gyfres Dragons Teath (1943) gwobr Pulitzer ar gyfer ffuglen ym 1943.
Ymunodd Sinclair a'r Blaid Sosialaidd ym 1902 a safodd fel ymgeisydd y Blaid Sosialaidd ar gyfer y Gyngres yn New Jersey ym 1906. Ym 1917 ymadawodd a'r Sosialwyr er mwyn cefnogi'r Arlywydd Woodrow Wilson. Dychwelodd i'r Blaid Sosialaidd wedi i Wilson cefnogi ymyrraeth yn yr Undeb Sofietaidd newydd. Safodd fel ymgeisydd Sosialaidd yng Nghaliffornia ar gyfer y Gyngres ym 1920 a'r Senedd ym 1922. Safodd fel ymgeisydd i ddyfod yn llywodraethwr Califfornia ym 1926 a 1930.[10]
Ym 1933 cafodd ei berswadio i wneud cais mwy realistig am swydd y llywodraethwr gan ennill yr enwebiad fel yr ymgeisydd Democrataidd.[11] Safodd gan ddefnyddio'r slogan " Diwedd ar Dlodi yng Nghaliffornia." Bu'n ymgyrchu am gynigion ar gyfer rhyddhad economaidd a diwygiadau i gael ei weinydd gan y wladwriaeth trwy greu nifer o sefydliadau cymdeithasol. Colli bu ei hanes eto yng ngwyneb gwrthwynebiad hynod fudr. Cafodd ei orchfygu gan ymgyrch propaganda ar y cyd, a drefnwyd gan y sefydliad gwleidyddol a busnes, papur newydd y moguls, a phenaethiaid stiwdio Hollywood, a oedd yn ei bortreadu fel comiwnydd Americanaidd. Gan ddefnyddio dynion hysbysebu, ymgynghorwyr y cyfryngau, a "thriciau budr" amrywiol. Cafodd y frwydr gwrth-Sinclair ei alw'n un o'r ymgyrchoedd difenwi mwyaf trefnus yn hanes America.[12] Cynhaliwyd cyfweliadau ffug a'u hadrodd fel newyddion go iawn mewn theatrau ffilm. Roedd yr ymgyrch yn rhagflaenydd y "newyddion ffug" a'r hysbysebion ymosodol ar y teledu degawdau yn ddiweddarach.
Bu farw mewn cartref nyrsio yn Bound Brook, New Jersey.[13] a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Rock Creek, Washington DC gyda Mary ei wraig a fu farw blwyddyn o'i flaen.
Ffuglen
Hunangofianol
Ffeithiol
Drama
Golygydd
|date=
(help)