Urtyn duu (cân hir) (Mongoleg: Уртын дуу, ᠤᠷᠲᠤ ᠶᠢᠨ ᠳᠠᠭᠤᠤ) yw un o elfennau canolog cerddoriaeth draddodiadol Mongolia, ynghyd â bogino duu (cân fer). Ni elwir y genre yn ‘gân hir’ oherwydd hyd y gân ei hun, ond oherwydd bod pob sillaf yn cael eu cynnal am gyfnod hir. Gall cân sy’n para pedair munud gynnwys deg gair yn unig.
Cofnodwyd urtyn duu mewn llenyddiaeth ers y 13g, a chredir ei bod wedi ymddangos 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae amrywiaeth eang o ddulliau rhanbarthol yn parhau hyd heddiw, ac maent dal i chwarae rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y nomadiaid sy’n byw ym Mongolia ac ym Mongolia Fewnol. Perfformir urtyn duu mewn priodasau, ar enedigaeth baban, wrth sefydlu cartref newydd, ac mewn digwyddiadau diwylliannol pwysig eraill.
Fel arfer maent yn ganeuon hiraethus a sentimental sy’n disgrifio harddwch natur, ceffylau, tirweddau, a chrefydd.[1]