System drafodaeth wasgaredig fyd-eang drwy gyfrifiaduron yw Usenet (/ˈjuːzˌnɛt/). Fe'i datblygwyd o bensaernïaeth rhwydwaith cyffredinol deialu UUCP. Lluniwyd y syniad gan Tom Truscott a Jim Ellis yn 1979, ac fe'i sefydlwyd yn 1980.[1]
Mae defnyddwyr yn darllen a phostio negeseuon (a elwir yn erthyglau, a gyda'i gilydd yn newyddion) mewn un neu fwy o gategorïau neu grwpiau newyddion. Mae Usenet yn ymdebygu i system bwrdd bwletin (BBS) mewn sawl agwedd ac yn un o rhagflaenwyr y fforymau rhyngrwyd a ddefnyddir yn helaeth heddiw. Trefnir y trafodaethau mewn edefau, fel gyda fforymau gwe a BBS, er bod y negeseuon eu hunain yn cael eu storio yn ddilyniannol ar y gweinydd. Mae'r enw yn deillio o'r term "users network".[2][3]
Un gwahaniaeth sylfaenol rhwng BBS neu fforwm gwe a Usenet yw absenoldeb gweinydd canolog a rheolwr ymroddedig. Mae Usenet wedi ei wasgaru rhwng casgliad mawr o weinyddion sy'n storio a phasio negeseuon ymlaen rhwng ei gilydd gan ddefnyddio porthiannau newyddion. Nid oes un gweinydd canolog sydd yn rheoli'r system, a gall unrhyw weinydd ymuno neu adael y system. Gall defnyddwyr unigol bostio a darllen negeseuon drwy weinydd lleol a weithredir gan eu darparwr rhyngrwyd, prifysgol, cyflogwr, darparwr masnachol neu gan eu gweinydd ei hun.
Mae gan Usenet bwysigrwydd diwylliannol o bwys yn y byd rhwydweithio, am ei fod yn gyfrifol am nifer o gysyniadau a thermau megis "FAQ", "fflamio", a "spam" neu wedi poblogeiddio y termau hyn.[4]
Ffurfiwyd grŵp trafod Usenet ar 21 Mawrth 1995 o'r enw soc.culture.welsh, cyfoeswr soc.culture.celtic a soc.culture.british. Noda Siarter y grŵp hwn mai ei ddiben yw trafod materion sy'n ymwneud â Chymru, Cymry, y Gymraeg, ei diwylliant a'i hanes ydyw a bod croeso i ddefnyddwyr y grŵp bostio yn Gymraeg neu'n Saesneg.[5] Er bod y grwp yn dal yn bodoli, daeth y trafodaethau i ben oddeutu 1999.
Daeth soc.culture.welsh yn nodedig am ddadleuon ymfflamychol am y Gymraeg a defnydd y Gymraeg ar y grŵp gan arwain yn y pendraw at ffurfio hierarchaeth newydd ar Usenet ar ddiwedd y 1990au, sef wales.* . Ffurfiwyd pwyllgor i benderfynu ar siarter a pholisiau yr hierarchaeth a'r grwpiau i'w creu.
Roedd hwn yn cynnwys sawl grŵp trafod yn cynnwys wales.cymraeg yn benodol ar gyfer negeseuon yn y Gymraeg.[6] Yn y pen draw fe ddisodlwyd y cyfrwng yma gan wefannau trafod.
|deadurl=
ignored (help)