Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon

Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon
GwladGogledd Iwerddon
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd2008 (as IFA Premiership)
Nifer o dimau12
Lefel ar byramid1
Disgyn iNIFL Championship
CwpanauIrish Cup
NIFL Charity Shield
Cwpanau cynghrairNI Football League Cup
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Champions Cup
Cwpan Her yr Alban
Pencampwyr PresennolLinfield
(5th Premiership title; 53ydd teitl off)
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauLinfield
(5 Premiership titles; 53 teitl Irish League a'r NIFL Premiership)
Partner teleduBBC NI (10 gêm fuw y tymor ac uchafbwyntiau via BBC iPlayer)[1]
Bwin.Party Digital Entertainment[2]
Sky Sports (5 gêm Premiership y tymor a ffeinal y League Cup) [3]
GwefanGwefan Swyddogol yr NIFL
2021–22

Y Northern Ireland Footbal League Premiership (neu NIFL Premiereship) yw Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon. Am resymau nawdd ei henw swyddogol gyfredol (yn 2019) yw'r Danske Bank Premiership.[4] Yr hen enw ar y adran a'r gynghrair oedd yr Irish League ac arddelir yr enw hwnnw o hyd ar lafar ac fel llawfer.

Sefydlwyd yr Irish League yn 1890 ac ers hynny mae sawl newid sylfaenol ac o ran fformat ac enw wedi bod ar y gynghrair. Linfield F.C. yw'r tîm fwyaf llwyddiannus yn y gynghrair, gan iddo ennill 53 teitl ers 1890 gan gynnwys 5 ers sefydlu'r NIFL Premiership yn ei ffurf gyfredol yn 2008. Cyflwynir Cwpan Gibson i'r clwb sy'n ennill y gynghrair.

Murlun tîm Linfield, clwb mwyaf llwyddiannus y Lîg

Mae'r NIFL Premiereship bellach yn rhan o Gynghrair Bêl-droed Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Football League). Hyd nes 2013 enw'r adran oedd yr IFA Premier League ac mae wedi ei galw'n sawl enw ar hyd ei hamser.

Mae'r NIFL Premiereship yn ddisgynnydd uniongyrchol i Gynghrair Wyddelig, neu'r Irish League sef y gynghrair a sefydlwyd yn 1890 ar gyfer y cyfan o ynys Iwerddon. Dyma oedd yr ail gynghrair bêl-droed hynaf yn y byd, wedi Lloegr a chyn yr Alban.

Am y blynyddoedd cyntaf dominyddwyd y gynghrair gan dimau o ddinas Belfast gyda 7 o'r 8 clwb sylfaenol yn dod o'r ddinas. Bu'n rhaid aros nes 1892 cyn i Derry Olympic ddod y clwb gyntaf o du hwnt i ardal Belfast ymuno ac roedd ddim nes 1902 i dîm Bohemians F.C. o Ddulyn ymuno â hi, a gwneud y gynghrair yn un wir genedlaethol. Hyd nes diddymu'r gynghrair ar ei ffurf holl Iwerddon, cystadlodd 3 tîm o Ddulyn yn y gynghrair (Bohemians, Shelbourne a Tritonville. Pan ymranodd yr Irish League yn 1921 yn sgil Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a sefylu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, Glenavon oedd yr unig dîm nad oedd o Belfast oedd ar ôl yn y Gynghrair. Ni enillodd yr un tîm o'r hyn a ddaeth yn Weriniaeth Iwerddon y Gynghrair erioed. Shelbourne a bu fwyaf llwyddiannus gan orffen yn ail yn nhymor 1906–07.

Derry City oedd y tîm gyntaf o Sir Derry i ennill y gynghrair a hynny yn 1965. Ond er iddynt ymuno â'r Gynghrair yn 1929 fe adawon nhw'r strwythur Gogledd Iwerddon yn 1972 oherwydd yr Helynt yng Ngogledd Iwerddon gan ymuno ag Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon y League of Ireland sydd yn cynnwys clybiau'r Werinaieth.

Crynodeb o Enwau a Strwythur Cynghair Pêl-droed Gogledd Iwerddon

[golygu | golygu cod]

Dyma'r enwau ar y gwahanol ffurf o gynghrair a ddatblygodd yn uniongyrchol o sefydlu'r Irish League yn 1890 hyd ac, ac yn cynnwys, tymor 2019–20:

  • Irish Football League (1890–1995)
  • Irish Football League Premier and First Divisions (1995–2003)
  • Irish Premier League (2003–2008)
  • IFA Premiership (2008–2013)
  • NIFL Premiership (2013–2016)
  • NIFL Premiership & Championship (2016–present)

Strwythur

[golygu | golygu cod]

Mae'r Premiership yn cynnwys 12 tîm (wedi iddi leihau o 16 tîm ar gyfer tymor 2008-09.

Mae pob tîm yn chwarae cyfanswm o 38 o gemau yn ystod y tymor. Mae pob tîm i ddechrau yn chwarae pob tîm arall deirgwaith (naill ai ddwywaith gartref ac unwaith oddi cartref, neu unwaith gartref a dwywaith oddi cartref) ar gyfer cyfanswm o 33 o gemau fesul tîm. Yna mae'r gynghrair yn rhannu'n Adran A ac Adran B, y chwe thîm uchaf yn Adran A yn chwarae ei gilydd am y pedwerydd tro a'r amser olaf i setlo materion pencampwriaeth ac Ewropeaidd, ac mae'r chwe thîm isaf yn Adran B yn chwarae ei gilydd i ddatrys materion disgyn .[5]

Ar ddiwedd y tymor, bydd y clwb a osodwyd yn y 12fed safle yn cael ei ddisodli i Bencampwriaeth NIFL ac mae'n rhaid i'r clwb yn yr 11eg safle gymryd rhan mewn gêm ail-gynnig yn erbyn enillwyr y gêm rhag-ail-gyfle (pre-play-off) a gynelir rhwng y timau sy'n ail a thrydydd yn y Bencampwriaeth. timau pencampwriaeth a thrydydd safle.[5]

Yn gyfredol (2019) mae'r gymdeithas yn ennill pedair safle yng nghystadlaethau UEFA. Bydd pencampwyr y gynghrair yn cystadlu yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr UEFA y tymor canlynol, gyda'r enillwyr yn y gynghrair a'r enillwyr yr Irish Cup yn cystadlu yng Nghynghrair Europa UEFA.

Cwpan Her yr Alban

[golygu | golygu cod]

Ers tymor 2016–17, mae pencampwyr y gynghrair a'r rhai a ddaeth yn ail wedi cymryd rhan yng Nghwpan Her yr Alban (Scottish Challenge Cup) fel y gwneir timau o Uwch Gynghrair Cymru hefyd.[6]

Champion's Cup

[golygu | golygu cod]

Gan ddechrau o 2019, bydd yr hyrwyddwyr teithiol hefyd yn wynebu pencampwyr Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon (y League of Ireland) yn y "Champion's Cup" - y gystadleuaeth gyntaf i Iwerddon gyfan ers i Gwpan Chwaraeon Setanta ddod i ben ar ôl 2014.

NIFL Championship

[golygu | golygu cod]

Y Northern Ireland Football League Championship (a elwir yn Bluefin Sport Championship am resymau noddi) yw ail lefel Cynghrair Pêl-droed Gogledd Iwerddon. Gall clybiau esgyn i'r NIFL Premiership sef - Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon - neu ddisgyn i'r trydydd lefel - NIFL Premier Intermediate League.

Mae 12 tîm yn yr adran yma. Ffurfiwyd (fel yr IFA Championship) yn 2008.

Performance by club

[golygu | golygu cod]

Nid yw'r clybiau mewn llythrennau italig yn bodoli mwyach (Celtic Belfast, Queen's Island) neu nid ydynt bellach yn cystadlu am y teitl (Derry City).

Clwb Enillwyr Ail Safle Tymor Buddugol
Linfield 53 23 1890–91, 1891–92, 1892–93, 1894–95, 1897–98, 1901–02, 1903–04, 1906–07, 1907–08, 1908–09, 1910–11, 1913–14, 1921–22, 1922–23, 1929–30, 1931–32, 1933–34, 1934–35, 1948–49, 1949–50, 1953–54, 1954–55, 1955–56, 1958–59, 1960–61, 1961–62, 1965–66, 1968–69, 1970–71, 1974–75, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1981–82, 1982–83, 1983–84, 1984–85, 1985–86, 1986–87, 1988–89, 1992–93, 1993–94, 1999–00, 2000–01, 2003–04, 2005–06, 2006–07, 2007–08, 2009–10, 2010–11, 2011–12, 2016–17, 2018–19
Glentoran 23 23 1893–94, 1896–97, 1904–05, 1911–12, 1912–13, 1920–21, 1924–25, 1930–31, 1950–51, 1952–53, 1963–64, 1966–67, 1967–68, 1969–70, 1971–72, 1976–77, 1980–81, 1987–88, 1991–92, 1998–99, 2002–03, 2004–05, 2008–09
Belfast Celtic 14 4 1899–00, 1914–15, 1919–20, 1925–26, 1926–27, 1927–28, 1928–29, 1932–33, 1935–36, 1936–37, 1937–38, 1938–39, 1939–40, 1947–48
Crusaders 7 5 1972–73, 1975–76, 1994–95, 1996–97, 2014–15, 2015–16, 2017–18
Lisburn Distillery 6[n 1] 8 1895–96, 1898–99, 1900–01, 1902–03, 1905–06,[n 1] 1962–63
Cliftonville 5[n 1] 6 1905–06,[n 1] 1909–10, 1997–98, 2012–13, 2013–14
Portadown 4 10 1989–90, 1990–91, 1995–96, 2001–02
Glenavon 3 10 1951–52, 1956–57, 1959–60
Coleraine 1 10 1973–74
Derry City 1 7 1964–65
Queen's Island 1 3 1923–24
Ards 1 1 1957–58

Pencampwyr yr NIFL Premiership ar ei newydd Wedd

[golygu | golygu cod]
Clwb Ennill Blwyddyn Buddugol
Linfield 5 2009–10, 2010–11, 2011–12, 2016–17, 2018–19
Crusaders 3 2014–15, 2015–16, 2017–18
Cliftonville 2 2012–13, 2013–14
Glentoran 1 2008–09

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The Irish League Show now on BBC iPlayer". Northern Ireland Football League. 11 December 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-29. Cyrchwyd 18 September 2015.
  2. "NIFL signs up TRACKCHAMP as streaming and data partner". Northern Ireland Football League. 31 July 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-29. Cyrchwyd 18 September 2015.
  3. Adrian Rutherford (15 February 2017). "Northern Ireland Football League pens new deal with Sky Sports". Belfast Telegraph Digital. Independent News & Media. Cyrchwyd 1 March 2018.
  4. "Danske Bank are new title sponsors of the Premiership". BBC Sport. 26 July 2012.
  5. 5.0 5.1 "NIFL Premiership Rules 2018–19" (PDF). NIFL. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-03-25. Cyrchwyd 26 March 2019.
  6. "Scottish Challenge Cup expanded to include teams from Wales & NI". BBC Sport. Cyrchwyd 26 March 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "n", ond ni ellir canfod y tag <references group="n"/>