Val Kilmer | |
---|---|
Ganwyd | Val Edward Kilmer 31 Rhagfyr 1959 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, bardd, actor llais, sgriptiwr, actor teledu, actor llwyfan, cynhyrchydd ffilm |
Tad | Dorris Eugene Kilmer |
Mam | Gladys Ekstadt |
Priod | Joanne Whalley |
Plant | Jack Kilmer, Mercedes Kilmer |
Gwefan | https://valkilmer.com/ |
Actor Americanaidd ydy Val Kilmer (ganed 31 Rhagfyr 1959). Yn wreiddiol, actor llwyfan ydoedd ond daeth i enwogrwydd mewn ffilmiau yng nghanol y 1980au pan serennodd mewn ffilmiau comedi, gan gynnwys Top Secret! (1984), y ffilm gwlt Real Genius (1985), a'r ffilm hynod lwyddiannus Top Gun.
Yn ystod y 1990au, bu Kilmer mewn nifer o ffilmiau a fu'n lwyddiannau masnachol, gan gynnwys ei rôl fel Jim Morrison yn The Doors, Doc Holliday yn Tombstone (1993), Batman yn y ffilm Batman Forever (1995), Chris Shiherlis yn Heat a Simon Templar yn The Saint (1997). Ar ddechrau'r 2000au, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys The Salton Sea, Spartan, ac mewn rôlau cefnogol yn Kiss Kiss Bang Bang, Alexander ac fel llais KITT yn Knight Rider.