Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Labasa |
Poblogaeth | 130,000, 30,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ffiji |
Sir | Northern Division |
Gwlad | Ffiji |
Arwynebedd | 5,587 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 16.58°S 179.18°E |
Hyd | 180 cilometr |
Yr ail ynys o ran maint o ynysoedd Ffiji yw Vanua Levu. Ystyr yr enw yw "Tir Mawr".
Saif 64 km o'r ynys fwyaf. Viti Levu. Mae'n 180 km o hyd a rhwng 30 a 50 km o led, gydag arwynebedd o 5.587 km². Mae'r boblogaeth tua 130,000, a'r brif dref yw Labasa. Y copa uchaf yw Nasorolevu (1,032 medr). Prif gynnyrch yr ynys yw copra a siwgwr.
Credir fod yr ynys wedi ei phoblogi yn gynharach nag ynys Viti Levu. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd y fforiwr Abel Tasman o'r Iseldiroedd.