Vera Lynn | |
---|---|
Ganwyd | Vera Margaret Welch 20 Mawrth 1917 East Ham |
Bu farw | 18 Mehefin 2020 Princess Royal Hospital |
Label recordio | EMI, His Master's Voice, Decca Records, London Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd, artist recordio, actor, awdur geiriau |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, War Medal 1939–1945, Burma Star, Swyddog Urdd Sant Ioan, Cydymaith Anrhydeddus, Commander of the Order of Orange-Nassau, Classic Brit Awards |
Cantores ac actores Seisnig a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Fonesig Vera Lynn, DBE (ganed Vera Margaret Welch; 20 Mawrth 1917 – 18 Mehefin 2020)[1][2]. Yn ystod y rhyfel, teithiodd o amgylch yr Aifft, yr India a Bwrma, gan ddarparu cyngherddau awyr agored ar gyfer y lluoedd arfog. Cawsai ei galw'n "The Forces' Sweetheart"; ei chaneuon mwyaf adnabyddus yw "We'll Meet Again" a "The White Cliffs of Dover".
Parhaodd i fod yn boblogaidd ar ôl y rhyfel, gan ymddangos ar raglenni teledu a radio yn y Deyrnas Unedig a'r UDA. Recordiodd mwy o ganeuon megis "Auf Wiederseh'n Sweetheart" a "My Son, My Son". Yn 2009 hi oedd yr artist byw hynaf erioed i gyrraedd rhif 1 siart albymau'r Deyrnas Unedig, pan oedd yn 92 mlwydd oed.[3] Treuliodd llawer o'i hamser a'i hegni yn gweithio gydag elusennau sy'n ymwneud â chyn-aelodau'r lluoedd arfog, plant anabl a chancr y fron. Roedd yn parhau i gael ei pharchu'n fawr gan y rheiny a frwydrodd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn 2000 cafodd ei henwi fel y Brydeinwraig a gynrychiolai orau ysbryd yr 20g.[4]
Ym 1941 priododd Lynn Harry Lewis, chwaraewr clarinét a sacsoffon a gyfarfyddodd dwy flynedd ynghynt[5]. Cawsant un plentyn, Virginia Penelope Anne Lewis. Bu farw Harry Lewis yn 1998.[6]
Aeth Lynn i fyw yn Ditchling yn Sussex ar ddechrau'r 1960au. Roedd yn byw drws nesaf i'w merch.[7]
Bu farw yn 103 oed yn ei chartref ar 18 Mehefin 2020.[8]