Verzuiling

Enw Iseldireg ar yr arwahanu ym meysydd gwleidyddiaeth, crefydd, a chymdeithas yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yw verzuiling ("pilereiddio"). Defnyddiwyd y term yn gyntaf gan y gwyddonydd gwleidyddol J. P. Kruyt i ddisgrifio'r strwythur gymdeithasol a gwleidyddol neilltuol yn yr Iseldiroedd a ddatblygai yn yr 20g. Rhennir cymdeithas yr Iseldiroedd gan wahaniaethau enwadol a dosbarth cymdeithasol yn bedwar prif floc—y Catholigion, y Protestaniaid, y Sosialwyr, a'r Rhyddfrydwyr—ac mae bron pob sefydliad a chysylltiad ffurfiol yn ymlynu wrth y grwpiau hynny.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gordon Marshall (gol.), The Concise Oxford Dictionary of Sociology (Rhydychen: Oxford University Press, 1994), tt. 393–4.