Vestmannaeyjar

Vestmannaeyjar
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,523 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethÍris Róbertsdóttir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSuðurland Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd16.3 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.4164°N 20.2828°W, 63.387989°N 20.341899°W Edit this on Wikidata
Cod post900, 902 Edit this on Wikidata
IS-VEM Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethÍris Róbertsdóttir Edit this on Wikidata
Map
Map o'r archipelago

Mae Vestmannaeyjar (IPA:ˈvɛstmanːaˌeiːjar, Seisnigir weithiau i Westman Islands) yn dref ac archipelago oddi ar arfordir ddeheuol Gwlad yr Iâ.[1] Bydd llawer yn gyfarwydd gyda'r enw Saesneg yn dilyn sylw yn y wasg i losgfynyddoedd yno yn yr 20g.

Mae gan yr ynys fwyaf, Heimaey, boblogaeth o 4,135. Does neb yn byw ar yr ynysoedd eraill, er fod gan chwech ohonynt un caban hela yr un. Daeth Vestmannaeyjar at sylw ryngwladol yn 1973 gyda ffrwydrad y llosgfynydd Eldfell a ddifethodd sawl adeilad a gorfodi i'r boblogaeth gyfan adael am fis i'r tir mawr. Lloriwyd oddeutu un pumed o'r dref gan y llif lafa cyn iddo gael ei stopio drwy arllwys 6.8 biliwm litr o ddŵr môr oer arno.[2]

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Ynys Elliðaey
Ynysoedd Suðurey, Hellisey, Súlnasker a Geldungur islands.
Ynysoedd Smáeyjar

Mewn termau daearegol, mae archipelago Vestmannaeyjar yn ifanc. Maent yn gorwedd ym Mharth Llosgfynyddig De Gwlad yr Iâ ac maent wedi eu ffurfio gan ffrwydriadau dros y 10,000–12,000 mlynedd ddiwethaf. Mae'r system llosgfynydd yn cynnwys 70–80 llosgfynydd sydd uwchben ac islaw y môr.[3]

Cynhwysa Vestmannaeyjar yr ynysoedd canlynol:

  • Heimaey (13.4 metr sgcilowar; 5.2 mi sgw)
  • Surtsey (1.4 metr sgcilowar; 350 acr)
  • Elliðaey (0.45 metr sgcilowar; 110 acr)
  • Bjarnarey (0.32 metr sgcilowar; 79 acr)
  • Álsey (0.25 metr sgcilowar; 62 acr)
  • Suðurey (0.20 metr sgcilowar; 49 acr)
  • Brandur (0.1 metr sgcilowar; 25 acr)
  • Hellisey (0.1 metr sgcilowar; 25 acr)
  • Súlnasker (0.03 metr sgcilowar; 7 acr)
  • Geldungur (0.02 metr sgcilowar; 5 acr)
  • Geirfuglasker (Vestmannaeyjar) (0.02 metr sgcilowar; 5 acr)
  • gelwir ynysoedd Hani, Hæna, Hrauney a skerry Grasleysa yn Smáeyjar (ynysoedd bychain).

Cyfanswm: 16.3 metr sgcilowar (6.3 mi sgw)

Cafwyd ffrwydran tanfor i'r de ddwyrain o Hellisey yn 1896. Dechreuodd y ffrwydrad nesa ar 14 Tachwedd 1963. Parhaodd am bedair mlynedd - un o'r hiraf yn hanes Gwlad yr Iâ - gan roi geni i Surtsey, y 15fed ynys yn y grŵp. Parhaodd ffrwydrad Eldfell yn 1973 am 155 diwrnod gan wneud i ynys Heimaey dyfu gan oddeutu 2.1 metr sgcilowar (0.81 mi sgw). TMae grŵp y Vestmannaeyjar tua 38 cilometr (24 mi) o hyd a 29 cilometr (18 mi) ar draw, gyda'r pwynt agosaf i'r tir mawr tua 8 cilometr (5 mi).

Clawr llyfr Ólafur Egilsson a gipiwyd gan fôr-ladron Barbary yn 1627
Golyfa o Súlnasker Geldungur, Hellisey, Álsey, Brandur, Suðurey, Heimaey, Bjarnarey, Elliðaey, gyda'r tir mawr yn y cefndir, Chwefror 2009
Heimaklettur o begwn llosgfynydd Eldfell a ffrwydrodd ar 23 Ionawr 1973
Hela'r pâl ar y clogwyni

Enwir yr ynysoedd ar ôl caerthwasion Gwyddelig a gipiwyd gan y Llychlynwyr. Defnyddiwyd y gair Hen Norseg, Vestmenn, llythrennol "Gorllewinwyr", i ddisgrifio'r Gwyddelod ac fe'i cedwir yn yr iaith Islandeg er fod Gwlad yr Iâ ymhellach i'r gorllewin nag Iwerddon. Mewn cyferbyniad ddiddorol, roedd Llychlynwyr oedd wedi gwladychu ac ymsefydlu yn yr Iwerddon yn galu eu hunain yn "Ostmen neu "Austmenn" - "dwyreinwyr" gan mai o'r dwyrain yr oeddynt yn hannu.

Yn fuan wedi i Ingólfur Arnarson gyrraedd Gwlad yr Iâ, fe lofruddiwyd ei frawd gwaed, Hjörleifr Hróðmarsson gan gaethwasion oedd ganddo. Aeth Ingólfur ar eu hôl a'u canfod yn y Vestmannaeyjar a'u lladd mewn dial. Oddi yno y daeth yr enw Vestmannaeyjar (ynysoedd y Gorllewinwyr). Credir i hyn ddigwydd yn y flwyddyn 875.

Ar 16 Gorllewin 1627, mewn digwyddiad a elwir fel Cipiad y Twrciaid fe gipiwyd yr ynysoedd gan lynges o dair llong o fôr-ladron o Aljeria yng ngogledd Affrica (Barbary Pirates). Arhosodd y môr-ladron tan 19 Gorffennaf dan reolaeth yr Otomaniaid. Roeddynt eisoes wedi gwneud cyrch ar ddwyrain yr ynys a gwelwyd cyrch arall ar Grindavík ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Cipiodd y môr-ladron 234  person o'r ynysoedd a'u caethiwo ar fordaith 27 diwrnod i Aljeria lle treuliodd y rhan fwyaf ohonynt gweddill eu bywydau yn gaeth.[4] Un o'r caethion oedd y gweinidog Lutheraidd, Ólafur Egilsson, a lwyddodd i ddychwelyd i Wlad yr Iâ yn 1628, lle ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau.[5] Yn 1636, talwyd pridweth am 34 o'r caethion a dychwelodd y rhanfwyaf yn ôl i'w mamwlad. Wedi hyn fe adeiladwyd caerfechan ar Skansinn (Islandeg am 'y bastion'), a rhoddwyd gard arfog i gadw llygad o lethrau llosgfynydd Helgafell.

Pentref Heimaey ar ddiwedd 19g

Bywyd anodd oedd bywyd trigolion y Vestmannaeyjar am flynyddoedd gan fyw drwy bysgota a hela adar gwayllt a'i ŵyau a gasglwyd o'r clogwyni. Ar ddiwedd y 19g poblogaeth yr ynysoedd oedd oddeutu 600 ond cafwyd newidiadau mawrion wedyn. Yn 1904 prynwyd y cwch modur gyntaf ac erbyn 1930 roedd y boblogaeth wedi tyfu i 3,470. Mae'r Vestmannaeyjar wedi bod yn flaenllaw ym maes pysgota a phrosesu'r pysgod ac yn un o ganolfanau'r diwydiant yn y wlad. Bu diffyg dŵr crowy yn broblem i'r boblogaeth nes i beiben ddŵr gael ei hagor yn 1968.

Cafwyd dwy ffrwydrad llosgfynydd fawr yn y 20g: Yn 1963 crewyd ynys newydd Surtsey, ac yn ffrwydrad Eldfell yn Ionawr 1973, crewyd mynydd newydd 200 metr o uchder lle bu dôl, gan orfodi i'r 5,000 o drigolion yr ynys i ganfod lloches ar y tir mawr.

Yn 2000, cyflwynwyd Eglwys Heimaey, oedd yn atgynhyrchiad o'r hen eglwys gan gynnwys shrine i Sant Olav, ar y Skansinn fel rhodd gan lywodraeth Norwy i Wlad yr Iâ er mwyn cofnodi Gwlad yr Iâ yn dod yn wlad Gristnogol mil o flynyddoedd ynghynt.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Westman Islands". Icelandic Tourist Board. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 13 April 2014.
  2. Taylor Kate Brown (11 September 2014). "How do you stop the flow of lava?". BBC news. Cyrchwyd 14 September 2014.
  3. "VESTMANNAEYJAR: Volcanic Activity". Nordic Adventure Travel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 21 January 2014.
  4. „Hvað gerðist í Tyrkjaráninu?". Vísindavefurinn, retrieved on 26 February 2012. (In Icelandic.)
  5. "The Travels of Reverend Ólafur Egilsson". Reisubok.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 January 2014. Cyrchwyd 13 April 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Paul Torvik Nilsen, 'Colourful Middle Ages', Tell'us: Science in Norway (December 2001), 6-9.