Vikki Howells AS | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Gwm Cynon | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Christine Chapman |
Mwyafrif | 5,994 |
Manylion personol | |
Cenedligrwydd | Cymraes |
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Addysg | Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr |
Alma mater | Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Gwefan | www.vikkihowells.com |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Vikki Howells sydd wedi cynrychioli etholaeth Cwm Cynon yng Nghynulliad Cymru ers etholiad 2016.
Magwyd Howells yn Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf.[1]
Roedd Howells yn athrawes am 16 mlynedd.[2] Cyn ei hethol i'r Cynulliad, roedd yn athrawes hanes a phennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun St Cenydd yng Nghaerffili, De Cymru.[3] Cymerodd absenoldeb drwy ganiatâd i ymgyrchu ar gyfer etholiad, ac fe fyddai wedi dychwelyd i'w gwaith ar y dydd Llun yn dilyn yr etholiad pe na bai hi wedi bod yn llwyddiannus.[1]
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd bod Howells wedi cael ei dewis fel ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer etholaeth Cwm Cynon yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.[3] Mae hi wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers dros 20 mlynedd.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,830 pleidlais (51.1% o'r pleidleisiau a fwriwyd).[1]