Vin Garbutt | |
---|---|
Ganwyd | 20 Tachwedd 1947 |
Bu farw | 6 Mehefin 2017 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr |
Arddull | canu gwerin |
Gwefan | http://http://www.vingarbutt.com |
Canwr a chyfansoddwr caneuon gwerin oedd Vincent Paul Garbutt (20 Tachwedd 1947 – 6 Mehefin 2017). Ganwyd yn South Bank, Middlesbrough. Roedd ei fam yn Wyddeles a'i dad yn Sais. Ar ôl prentisiaeth chwe blynedd efo ICI, penderfynodd fynd i Ewrop, a llwyddodd i ennill bywoliaeth drwy ganu mewn tafarndai. Daeth yn ôl i wledydd Prydain a pharhaodd efo'i yrfa fel canwr, yn gyntaf fel aelod o fand, Y Teeside Fettlers, ac yn ddiweddarach ar ei ben ei hun. chwaraeodd o gitâr a chwibanogl, a roedd yn enwog am ei straeon doniol a swreal rhwng ei ganeuon difrifol.
Tteithiodd o'r byd yn flynyddol o 1991 ymlaen, heblaw am gyfnod byr ar ôl trawiad ar y galon yn 2005.
Roedd ganddo radd anrhydeddus o Brifysgol Teeside ar gyfer ei wasanaethau i gerddoriaeth ac i ardal Teeside.[1]
Bu farw ar 6 Mehefin 2017.
Teeside Troubadour[2]