Virginia Crosbie | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1966 Maldon |
Dinasyddiaeth | Lloegr Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Gwefan | https://www.virginiacrosbie.co.uk/ |
Gwleidydd Ceidwadol yw Virginia Ann Crosbie (ganwyd 8 Rhagfyr 1966).[1] Bu'n Aelod Seneddol (AS) Ynys Môn rhwng 2019 a 2024.[2]
Cafodd Crosbie ei geni ym Maldon, Essex, Lloegr, i fam Seisnig a thad Cymreig. Cafodd ei magu ym mhentref Tiptree, lle roedd ei mam yn gweithio mewn ffatri jam. Mynychodd Ysgol Uwchradd Sirol Colchester. Astudiodd ficrobioleg ym Mhrifysgol Queen Mary yn Llundain cyn cwblhau diploma mewn astudiaethau rheolaeth ym Mhrifysgol Westminster. Ar ôl graddio, bu Crosbie yn gweithio i Glaxo Wellcome cyn dod yn ddadansoddwr fferyllol yn y banc UBS. Daeth yn gyfarwyddwr yn UBS ac yn ddiweddarach yn HSBC. Wedyn daeth yn athrawes mathemateg rhan amser.
O fis Medi 2021 tan fis Gorffennaf 2022, roedd yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.[3] Ym mis Gorffennaf 2022 ymddiswyddodd o lywodraeth Boris Johnson.[4]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Albert Owen |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 2019 – 2024 |
Olynydd: Llinos Medi |