Enghraifft o'r canlynol | rhaglen danfon pobl i'r gofod, Soviet space program |
---|---|
Dechreuwyd | 1961 |
Daeth i ben | 2024 |
Yn cynnwys | Vostok 1, Vostok 2, Vostok 3, Vostok 4, Vostok 5, Fostoc 6 |
Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Vostok ("dwyrain") oedd enw'r rhaglen gyntaf i roi dyn yn y gofod, a oedd yn weithredol o 1961 i 1965 gan yr Undeb Sofietaidd. Dyluniwyd y llongau gofod Vostok gan dîm o beiriannwyr Rwsaidd dan arweiniaeth Sergei Korolev.
Yn nhermau eu dyluniad, roedd y cerbydau Vostok yn gapsiylau cymharol elfennol, gyda modiwl ar gyfer cosmonaut, a modiwl arall yn cynnwys sustemau cyfathrebu ayyb.
Llwyddodd Yuri Gagarin i fynd i'r gofod ar 12 Ebrill 1961 yn Vostok 1.
Cafodd dyluniad y capsiwl ei newid yn 1964 i gynnwys criw o dri gofodwr; ail-enwyd y cerbyd Voskhod ("codiad"), a hedfanodd dau ohonynt yn 1964 a 1965. Ar yr ail daith Voskhod yn 1965, gwnaeth Alexei Leonov adael y cerbyd i gerdded yn y gofod - y dyn cyntaf i wneud hyn. Llwyddodd yr Unol Daleithiau i efelychu'r gamp wythnosau wedyn. Gwelwyd y gamp fel buddugoliaeth fawr i'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer.
Gwnaeth y cerbyd Soyuz ("undeb") gymryd lle Voskhod yn y 1960au hwyr fel cerbyd gofod dynol yr Undeb Sofietaidd.