W. S. Graham

W. S. Graham
Ganwyd19 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
Greenock Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stow College Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Albanaidd yn yr iaith Saesneg oedd William Sydney Graham (19 Tachwedd 19189 Ionawr 1986).

Ganwyd yn Greenock, Swydd Renfrew. Cafodd ei hyfforddi'n beiriannydd mewn colegau yn Glasgow a Chaeredin. Cafodd ei esgusodi rhag gwasanaeth milwrol yn yr Ail Ryfel Byd am resymau meddygol, a symudodd i Gernyw ym 1943 i fyw mewn carafán. Teithiodd i Lundain ac Efrog Newydd a bu'n cwrdd â T. S. Eliot a Dylan Thomas. Cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan feirdd "yr Apocalyps Newydd". Priododd y bardd Agnes "Nessie" Dunsmuir ym 1954, a symudant i bentref Madron yng ngorllewin Cernyw.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Cage without Grievance (1942)
  • The Seven Journeys (1944)
  • 2nd Poems (1945)
  • The Voyages of Alfred Wallis (1948)
  • The White Threshold (1949)
  • The Nightfishing (1955)
  • Malcolm Mooney’s Land (1970)
  • Implements in their Places (1977)
  • New Collected Poems (2004; golygwyd gan Matthew Francis)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "W. S. Graham (1918 - 1986)", Scottish Poetry Library. Adalwyd ar 27 Mawrth 2018.