W. S. Jones | |
---|---|
![]() Clawr un o lyfrau Wil Sam. | |
Ffugenw | Wil Sam |
Ganwyd | 28 Mai 1920 ![]() Llanystumdwy ![]() |
Bu farw | 15 Tachwedd 2007 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | dramodydd ![]() |
Cysylltir gyda | Theatr y Gegin |
Dramodydd ac awdur o Gymru oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan y ffugenw W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 1920 – 15 Tachwedd 2007). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc.
Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Gwerthodd y modurdy yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramâu i’w perfformio yn Theatr Fach y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.[1]
Yn 1953 priododd Dora Ann Jones (16 Mawrth 1928 - 29 Mawrth 2023)[2] a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin.[3] Mae'n frawd i'r arlunydd a llenor Elis Gwyn Jones.
Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor ar y 15 Tachwedd 2007. Cafwyd Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd 2007.[4]
Mae ei ddramâu ar gyfer y theatr yn cynnwys
Cafodd ei waith ei ddarlledu ar deledu cynnar y BBC ac ar y radio. Mae'r dramâu, ffilmiau a chyfresi yn cynnwys:
Dyn y Mynci (1979)