Wawffactor | |
---|---|
Cyflwynwyd gan | Eleri Siôn |
Beirniaid | Owen Powell Bethan Elfyn Aled Haydn Jones Huw Chiswell |
Gwlad | Cymru |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Nifer o gyfresi | 3 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr | Alfresco |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | S4C |
Fformat y llun | 16:9 |
Darlledwyd yn wreiddiol | 2003 – 2006 |
Dolenni allanol | |
Gwefan |
Cyfres deledu Cymraeg ar ffurf sioe dalent oedd Wawffactor. Fe'i darlledwyd ar S4C rhwng 2003 a 2006 a fe'i cynhyrchwyd gan gwmni Al Fresco. Yn ail i Lisa Pedrig yn 2003 daeth Aimee Duffy a aeth ymlaen i enwogrwydd byd-eang ac roedd ei sengl 'Mercy' yn rhif un am wythnosau lawer.[1] Wyneb enwog arall oedd ar Wawffactor yw Aimee-Ffion Edwards a ddaeth yn enwog yn 2008 am chwarae rhan Sketch yn y ddrama i bobl ifanc, Skins.
Perfformiodd y cystadleuwyr yn gyntaf o flaen panel o bedwar beirniad mewn un o sawl clyweliad a gynhaliwyd o gwmpas y wlad. O'r rhain, dewiswyd deg unigolyn i fynd ymlaen i'r rhagbrofion lle ar ôl perfformio bob wythnos, dewisodd beirniaid i adael y gystadleuaeth nes bod tri ar ôl. Yn ystod y ffeinal byw, dewisodd y beirniaid un cystadleuydd i adael, a dewiswyd yr enillydd drwy bleidlais ffôn cyhoeddus. Y wobr oedd recordio albwm a fideo.
Beirniad y gyfres gyntaf oedd y cyn gitarydd Catatonia Owen Powell, y canwr a chyflwynydd Emma Walford, y cerddor Peredur ap Gwynedd ac Aled Haydn Jones, ar y pryd yn gynhyrchydd rhaglen Radio 1 Chris Moyles. Yn yr ail gyfres disodlwyd Emma Walford gan y DJ BBC Radio 1 Bethan Elfyn, a disodlwyd Peredur ap Gwynedd gan y cerddor Huw Chiswell yn y drydedd gyfres. Cyflwynwyd y sioe gan Eleri Siôn ac roedd Caryl Parry Jones yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr ar gyfer y rhagbrofion stiwdio.[2]
Blwyddyn | Enillydd | Ail | Trydydd | Cyf |
---|---|---|---|---|
2003/04 | Lisa Pedrick | Aimee Duffy | Beth Williams | [1] |
2005 | Rebecca Trehearn | Francesca Hughes | —[A] | [3] |
2006 | Einir Dafydd | Aimee-Ffion Edwards a Nathan Whiteley | [4] |