![]() | |
Math | tref farchnad ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Wem Urban |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Amwythig ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8555°N 2.725°W ![]() |
Cod OS | SJ514289 ![]() |
Cod post | SY4 ![]() |
![]() | |
Tref farchnad yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Wem.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wem Urban yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif 9 milltir (14 km) i'r gogledd o'r Amwythig ar y rheilffordd rhwng y dref honno a Crewe yn Swydd Gaer.[2]
Mae enw'r dref yn deillio o'r hen Saesneg wamm, sy'n golygu cors, gan fod tir corsiog yn bodoli yn ardal y dref. Dros amser, cafodd hyn ei lygru i ffurfio "Wem". [3] Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 5,142.[4]
Mewn rhannau o'r hen Sir Feirionnydd defnyddir y term "Dos i Wem" i olygu "dos o 'ma", "i ffwr' a thi", "hel dy draed i rwle", "ffŵc off". Gan fod Wem ychydig bach dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr grym yr ymadrodd yw "dos allan o'r wlad", "dos yn ddigon pell o'r fan hyn" [5]
Ym 1410 cafodd tref Wem ei "llosgi'n llwyr a'i gwastraffu gan y gwrthryfelwyr Cymreig" yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. [6]
Yn y dref cafodd y bysen bêr ei drin yn fasnachol am y tro gyntaf, o dan yr amrywiaeth o'r enw Eckford Sweet Pea, ar ôl ei ddyfeisiwr, y garddwriaethwr Henry Eckford. Cyflwynodd isrywogaeth o'r bysen bêr gyntaf ym 1882, a sefydlodd yn Wem ym 1888, gan ddatblygu a chynhyrchu llawer mwy o isrywogaethau.
Mae clybiau chwaraeon yn y dref yn cynnwys:
Yn y dref mae pedair prif eglwys:
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem