Mae Westlife yn grŵp pop Gwyddelig a ffurfiwyd ar y 3ydd Gorffennaf 1998. Cawsant eu harwyddo gan Simon Cowell ac ar hyn o bryd, cânt eu rheoli gan Louis Walsh. Dros y blynyddoedd, mae eu cerddoriaeth wedi esblygu o gerddoriaeth pop i arddegwyr i sain mwy cyfoes ar gyfer oedolion, gyda'r pwyslais ar ganeuon serch.
Roedd y grŵp gwreiddiol yn cynnwys Nicky Byrne, Kian Egan, Mark Feehily, Shane Filan, a Brian McFadden. Filan a Feehily yw prif leiswyr y band. Mae holl aelodau'r grŵp yn cyfansoddi, er cafodd y mwyafrif o'u caneuon llwyddiannus eu hysgrifennu gan gyfansoddwyr allanol. Maent wedi cael 14 o senglau yn rhif un siart y Deyrnas Unedig, y trydydd uchaf yn hanes y DU a'r un nifer a Cliff Richard ac ychydig tu ôl Elvis Presley a'r Beatles. Mae'r band hefyd wedi ennill nifer o wobrau megis yr "Act Pop Gwyddelig Gorau" yn y Gwobrau Meteor Iwerddon blynyddol a gwobr "Record y Flwyddyn" ar ITV yn y DU. Mae'r grŵp hefyd wedi torri ambell record, gan gynnwys "Yr Artist Cerddorol gyda'r nifer fwyaf o rifau un mewn rhes yn y Deyrnas Unedig" a'r act a werthodd fwyaf o docynnau arena yn y Deyrnas Unedig. Mae Westlife wedi cael 14 rhif un yn y DU a nhw yw'r grŵp cyntaf i gael pedwar rhif un mewn blwyddyn. Hefyd, Westlife oedd yr unig fand i gael rhifau un gyda'u saith sengl gyntaf. Mae eu holl senglau wedi cyrraedd y deg uchaf, os nad y pump uchaf.