Pwrpas tudalennau sgwrs Wicipedia ydy darparu lle i olygwyr drafod newidiadau i'r erthygl cysylltiedig neu dudalen brosiect. Ni ddylai tudalennau sgwrs gael eu defnyddio gan olygwyr fel platfform i'w safbwyntiau personol ar bwnc.
Pan yn ysgrifennu ar dudalen sgwrs, mae rhai sylwadau yn wrth-gynhyrchiol, tra bod eraill yn annog golygu effeithiol. Prif werth y dudalen sgwrs ydy cyfathrebu, cwrteisi ac ystyriaeth at eraill. Mae'r rhestr ganlynol wedi ei chynllunio i gynorthwyo Wicipedwyr i ddefnyddio tudalennau sgwrs yn effeithiol.
Mae'r polisïau sy'n berthnasol i erthyglau hefyd yn berthnasol: gwiriadau, arddull ddideudd a Wicipedia:dim ymchwil gwreiddiol. Yn naturiol, mae yna le i rhyw faint o ddamcanu, awgrymu a gwybodaeth bersonol ar dudalennau sgwrs, gyda'r bwriad o hybu ymchwilio pellach, ond yn gyffredinol fe'i ystyrir yn gamddefnydd o dudalen sgwrs i ddadlau unrhyw bwynt amherthnasol ac nad yw'n cytuno a'n polisïau a chanllawiau.
Sylwch yn benodol ar hyn:
- Dylai golygwyr ddileu unrhyw sylwadau negyddol am bobl byw sydd naill ai heb ffynhonnell, yn dibynnu ar ffynonellau annibynadwy neu sydd yn ddehongliad personol o ffynhonnell.
Sut i ddefnyddio tudalen sgwrs erthygl
[golygu cod]
- Cyfathrebwch: Os ydych mewn unrhyw amheuaeth, gwnewch ymdrech arbennig er mwyn i bobl eraill eich deall, a bod gennych ddealltwriaeth lawn o eraill. Mae bod yn gyfeillgar o gymorth mawr. Mae bob amser yn syniad da i chi esbonio'ch safbwynt; mae'n llawer llai defnyddiol i fynegi barn! Mae esbonio'ch barn o gymorth wrth argyhoeddi eraill a dod i gytundeb.
- Cadwch i'r testun: Mae tudalennau sgwrs ar gyfer trafod yr erthygl, ac nid am sgwrs gyffredinol am bwnc yr erthygl. Cadwch y drafodaeth ar y testun o sut i ddatblygu neu wella'r erthygl cysylltiedig. Mae'n bosib y bydd trafodaethau amherthnasol yn cael eu dileu.
- Byddwch yn gadarnhaol: Dylid defnyddio tudalennau sgwrs erthygl er mwyn trafod ffyrdd o wella erthygl, nid i feirniadu, ei dynnu'n ddarnau, neu gwyno am statws presennol erthygl neu'r pwnc. Mae hyn yn arbennig o wir am dudalennau sgwrs bywgraffiadau pobl byw. Fodd bynnag, os teimlwch fod rhywbeth o'i le, ond nid ydych yn siwr sut i'w gywiro, yna mae croeso i chi dynnu sylw at hyn a gofyn i gyfrannwyr eraill am awgrymiadau.
- Byddwch yn wrthrychol: Nid fforwm i olygwyr i ddadlau eu safbwyntiau personol am fater dadleuol ydy'r tudalennau sgwrs. Yn hytrach, maent yn fforwm ar sut y dylid cynnwys gwahanol safbwyntiau a gafwyd o ffynonnellau eilradd yn yr erthygl, er mwyn sicrhau fod yr erthygl yn niwtral a diduedd (a allai olygu ei fod yn cynnwys safbwyntiau cyferbyniol). Y ffordd gorau i gyflwyno'ch dadl yw i ddod o hyd i ddeunydd addas gyda ffynhonnell addas.
- Ymdriniwch â ffeithiau: Mae'r dudalen sgwrs yn lle delfrydol ar gyfer unrhyw fater sy'n ymwneud â gwiriadau. Mae hyn yn cynnwys gofyn am gymorth i ddod o hyd i ffynonellau, cymharu ffeithiau cyferbyniol o ffynonellau gwahanol, ac archwilio didwylledd ffynhonnell. Yn aml mae gofyn am ffynhonnell wiriadwy i gefnogi datganiad yn well na dadlau yn ei erbyn.
- Rhannwch ddeunydd: Gall y dudalen sgwrs storio deunydd sydd wedi cael ei symud o'r erthygl am nad oes modd ei wirio, er mwyn rhoi amser er mwyn dod o hyd i ffynonnellau. Weithiau gellir paratoi deunydd newydd ar y dudalen sgwrs nes ei fod yn barod i'w gynnwys yn yr erthygl; fel arfer mae defnyddwyr yn defnyddio eu blwch tywod ar gyfer hyn.
- Trafodwch olygiadau: Mae'r dudalen sgwrs yn arbennig o ddefnyddiol i drafod golygiadau. Os yw un o'ch golygiadau wedi cael ei wrthdroi, a'ch bod yn ei newid yn ôl unwaith eto, mae'n arfer dda i adael esboniad ar y dudalen sgwrs a nodyn yn y crynodeb golygu eich bod wedi gwneud hynny. Y dudalen sgwrs yw'r lle i gwestiynu golygiadau golygydd arall hefyd. Os yw rhywun yn cwestiynu un o'ch golygiadau chi, sicrhewch eich bod yn ateb yn rhesymegol.
- Gwnewch gynigion: Gellir gwneud cynigion am drafodaethau ayb ar gyfer yr erthygl gan olygwyr eraill gan gynnwys newidiadau i fanylion penodol, symud tudalennau, cyfuno tudalennau neu addasu rhan o erthygl hir yn erthygl ar wahan.
- Llofnodwch eich golygiadau: Er mwyn llofnodi golygiad, teipiwch bedair tilde (~~~~), a bydd eich enw defnyddiwr a stamp amser yn ymddangos yn eu lle, fel hyn: Esiampl 13:21, 9 Mai 2008 (UTC). Sylwch ei fod yn amhosib gadael sylwad anhysbys oherwyddir cofnodir eich enw defnyddiwr neu'ch cyfeiriad IP yn hanes y dudalen.[ateb]
- Osgowch bwyslais gormodol: Ystyrir PRIF LYTHRENNAU fel gweiddi a phrin iawn yr amgylchiadau maent yn briodol. Gellir defnyddio testun bras er mwyn uwcholeuo geiriau neu ymadroddion allweddol (gan amlaf i dynnu sylw at grynodebau safbwyntiol "o blaid" neu "yn erbyn" golygwyr), ond dylid ei ddefnyddio'n ystyrlon, oherwydd gall ymddangos fel petai'r ysgrifennwr yn codi ei lais neu llais. Gellir defnyddio testun italig yn amlach er mwyn pwysleisio neu amlygu geiriau neu ymadroddion allweddol, ond dylid ei osgoi ar gyfer testunau hirfaith. Cofiwch y gall gorddefnyddio pwyslais danseilio ei ddylanwad. Os ydych yn ychwanegu pwyslais i destun dyfynedig, sicrhewch eich bod yn nodi hynny. Gellir defnyddio testun italig hefyd i ddynodi testun dyfynedig o destun newydd ac , wrth gwrs, ar gyfer teitlau llyfrau, enwau llongau, a.y.y.b.
- Byddwch gryno: Os yw'ch golygiad dros 100 o eiriaum ystyriwch ei fyrhau. Mae negeseuon hirion a chymhleth yn anodd i'w deall, ac yn aml cânt eu camddeall neu'u hanwybyddu. Os oes angen i chi wneud trafodaeth fanwl, pwynt wrth bwynt, gweler isod ynglyn â sut i'w osod allan.
- Cadwch y diwyg yn glir: Cadwch y dudalen sgwrs yn ddeniadol ac wedi ei osod allan yn glir, gan ddefnyddio mewnosodiad a chonfensiynnau fformatio. Osgowch ailadrodd, ysgrifennu aneglur, a chrwydro oddi ar y pwnc yn ddiangen. Mae tudalennau sgwrs gyda neges amlwg a chlir yn fwy tebygol o ddenu mwy o gyfraniadau. Gweler Diwyg tudalennau sgwrs.
- Ffocyswch ar y drafodaeth: Dylai trafodaethau ddirwyn i ben yn naturiol drwy gytundeb, ac nid drwy syrffed.
- Darllenwch yr archifau: Os ydych yn olygydd newydd ar gyfer erthygl, sicrhewch eich bod yn darllen yr archifau. Mae anghydfodau cynnwys nid yn unig yn esiamplau gwerthfawr o ymddygiad tudalennau sgwrs, ond maent yn cynnwys llawer o wybodaeth arbenigol yn ymwneud â'r pwnc. Mae'n bosib y gwlewch yn gyflym iawn fod eich cwestiynau a/neu'ch gwrthwynebiadau wedi cael eu hateb eisoes os ydych yn chwilio'r archifau am yr erthygl honno ar yr un pryd gan ddefnyddio'r paramedr rhagosodedig.
- Defnyddiwch y Gymraeg: Waeth i bwy yr ydych yn gadael neges, mae'n well os ydych yn gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg ar dudalennau sgwrs y Wicipedia Cymraeg. Os nad yw hyn yn bosibl, gadewch eich neges yn Saesneg.
- Osgowch adael yr un edefyn mewn nifer o fforymau. Mae hyn yn torri ar draws trafodaeth y testun gwreiddiol. Yn hytrach, dechreuwch y drafodaeth mewn un lleoliad, ac, os oes angen, hysbysebwch y drafodaeth mewn lleoliadau eraill gan ddefnyddio dolen. Os ddewch chi o hyd i drafodaeth rhanedig, mae'n bosib y bydd yn well i symud yr holl negeseuon i un lleoliad a chre dolen ato. Sicrhewch eich bod yn nodi'n glir mewn crynodebau golygu ac ar dudalennau sgwrs beth yr ydych wedi gwneud a pham.
- Croesawch newydd-ddyfodiaid: Mae bosib fod pobl sy'n newydd i Wicipedia yn anghyfarwydd â pholisïau a chonfensiynnau'r prosiect. Peidiwch a chnoi newydd-ddyfodiaid. Os yw rhywun yn gwneud rhywbeth sy'n groes i arfer Wicipedia, cymrwch ewyllys da yn ganiataol ac ystyriwch y mater fel camgymeriad onest. Yn gwrtais, nodwch eu camgymeriad, gan gyfeirio at y polisi/canllaw/tudalen gymorth briodol, ac awgrymwch ffordd well o'i wneud.
- Seiliwch eich sylwadau ar y cynnwys, ac nid ar y cyfrannwr: Cadwch eich trafodaethau'n seiliedig ar bwnc y dudalen sgwrs, yn hytrach na phersonoliaethau'r golygwyr sy'n cyfrannu i'r dudalen sgwrs.