Wilfred Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 18 Mawrth 1893 ![]() Croesoswallt ![]() |
Bu farw | 4 Tachwedd 1918 ![]() Ors ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Prif ddylanwad | Siegfried Sassoon, John Keats, Horas, William Wordsworth ![]() |
Gwobr/au | Croes filwrol ![]() |
Bardd yn yr iaith Saesneg oedd Wilfred Edward Salter Owen, MC (18 Mawrth 1893 – 4 Tachwedd 1918).
Cafodd ei eni ym Mhlas Wilmot, Weston Lane, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, yn fab hynaf i Thomas a Harriet Susan (née Shaw) a chawsant dri pllentyn arall: Harold, Colin, a Mary Millard Owen.
Roedd ei ewythr Edward Shaw Owen wedi chwarae pêl-droed dros Gymru. Yn ôl yr hanesydd Hafina Clwyd yn ei chyfrol 'Rhywbeth Bob Dydd', arferai Wilfred fynd ar ei wyliau i fferm Glan Clwyd, Rhewl ger Rhuthun. Dyma rai o gerddi'r bardd: "Dulce et Decorum Est", "Insensibility", "Anthem for Doomed Youth", "Futility" a "Strange Meeting".
Athro yn Bordeaux, Ffrainc, oedd Owen ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (1912 ymlaen).
Un o gyfeillion y beirdd Siegfried Sassoon a Robert Graves oedd ef.
Bu Owen farw ym Mrwydr y Sambre un wythnos cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn ôl Hafina Clwyd, Edward Shaw Owen oedd tad Wilfred_Owen, a dywed iddo chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.[1]