William Alexander Madocks | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1773 Llundain |
Bu farw | 15 Medi 1828 Paris |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol, tirfeddiannwr, peiriannydd, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Gwleidydd a thirfeddiannwr o Sais oedd William Alexander Madocks (17 Mehefin 1773 – Medi 1828). Roedd yn aelod seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, o 1802 hyd at 1820. Ef oedd yn gyfrifol am ddraenio'r Traeth Mawr ac adeiladu'r morglawdd a adnabyddir fel "y Cob" rhwng Mhorthmadog er mwyn adennill tir amaethyddol o'r môr.[1]
Ganwyd Madocks yn Llundain yn fab i John Madocks, cyfreithiwr a sgweiar Ystâd Fron Yw, Dinbych a Frances (née Whitechurch) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol bonedd Charterhouse o 1784 hyd iddo gael ei ddiarddel o'r ysgol ym 1789. Aeth i Brifysgol Eglwys Crist, Rhydychen ym 1790 gan raddio BA ym 1793 ac MA ym 1799. Roedd yn gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen rhwng 1793 a 1818.[2]
Wedi ymadael a'r brifysgol prynodd Madocks Ystâd Dolmelynllyn, Y Ganllwyd, Dolgellau. Wedi marwolaeth ei dad ym 1798 defnyddiodd ei etifeddiaeth i brynu ystâd mwy o faint, Plas Tan-yr-allt, Penmorfa.[3] Roedd rhan fawr o ystâd Tan-yr-allt yn dir corsiog oedd yn cael ei orchuddio gan y môr ar adeg llanw uchel. Ym 1800 adeiladodd clawdd ar draws y gors i gau'r môr allan gan lwyddo i droi 1082 acer o wlypdir yn dir sych. Roddodd hyn blas iddo am y posibiliadau o ennill rhagor o dir o'r môr. Ym 1807 gwnaeth gais llwyddiannus i'r Senedd i freinio iddo ef a'i etifeddion tywodydd y Traeth Mawr rhwng Borth-y-gest a phont Aberglaslyn. Adeiladodd morglawdd milltir o hyd, gyda ffordd ar ei ben (Cob Porthmadog, bellach) gan ennill 3042 acr arall o dir sych. Adeiladodd pentref newydd ger Penmorfa a'i enwi yn Nhremadog [4] er anrhydedd i'w hun.[5]
Ym 1820 dechreuodd Madocks i ddatblygu Porthmadog fel porthladd ar gyfer y diwydiant llechi yn yr ardal ac i fewnforio glo i ogledd Cymru. Bu hefyd yn ymwneud â sefydlu Rheilffordd Ffestiniog, ond oherwydd ymgais i agor rheilffordd ar hyd llwybr arall a gwrthwynebiadau yn y senedd a gan dirfeddianwyr eraill yr ardal ni chafodd byw i weld y rheilffordd yn agor.
Roedd Madocks yn aelod o Gymdeithas y Chwigiaid (rhagflaenwyr y Blaid Ryddfrydol a'r Democratiaid Rhyddfrydol). Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth Boston, Swydd Lincoln ym 1802 gan gadw'r sedd hyd 1820. Ar y pryd roedd ymladd etholiadau yn fusnes drud gan fod etholwyr yn disgwyl i ymgeiswyr bod y hael iddynt efo bwyd diod ac arian parod er mwyn sicrhau eu pleidlais. O herwydd gost ei brosiectau yng Nghymru roedd Madocks yn methu fforddio ymladd Boston eto. Safodd yn etholaeth ratach Chippenham gan gadw ei sedd hyd 1826.[6]
Ym 1818 priododd Madocks a Eliza Anne, merch ac etifedd Samuel Hughes, asiant tir Tregunter; Talgarth. Roedd hi'n weddw Roderick Gwynne o Buckland. Bu iddynt un ferch.[7]
Erbyn 1826 roedd sefyllfa ariannol Madocks yn fregus. Aeth ar daith i'r cyfandir i osgoi cael ei garcharu gan y sawl oedd yn ei herlyn am ddyledion. Ar ei daith byddai'n llythyru'n aml gyda'i asiantau a chyfreithwyr yng Nghymru gyda syniadau am sut i wella ei sefyllfa ariannol er mwyn iddo gael dychwelyd adre. Ond cyn cael cyfle i ddychwelyd bu farw ym Mharis yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Père Lachaise.[8]