William Cleaver | |
---|---|
Ganwyd | 1742 Twyford |
Bu farw | 1815 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, Prifathro Coleg Y Trwyn Pres, Rhydychen, Esgob Caer, Esgob Bangor, Esgob Llanelwy |
Swydd | Esgob Caer, esgob |
Tad | William Cleaver |
Mam | Martha Lettice Lushden |
Priod | Anne Assheton |
Roedd William Cleaver (1742 -15 Mai, 1815) yn eglwyswr ac academydd o Loegr, yn Brifathro Coleg y Trwyn Pres, Rhydychen, ac yn esgob ar dair esgobaeth: Caer, Bangor a Llanelwy.[1]
Cleaver oedd yr hynaf o dri mab y Parchg William Cleaver, prifathro ysgol breifat yn Twyford, Swydd Buckingham, a'i wraig, Martha Lettice (née Lushden).[2] Roedd yn frawd i Euseby Cleaver (1745-1819), Archesgob Dulyn.[3] Addysgwyd ef yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, lle graddiodd yn BA ym 1761, ac wedi hynny daeth yn gymrawd Coleg y Trwyn Pres. Graddiodd yn MA ym 1764. Ym 1786 Derbyniodd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Eglwys Loegr.
Wrth gael ei wneud yn gymrawd Coleg y Trwyn Pres cafodd Cleaver fywoliaeth eglwysig Llaneurgain, Sir y Fflint. Yn rhinwedd ei gymrodoriaeth fe wnaed ef yn brebendari yn Eglwys Gadeiriol Westminster ym 1784.
Ym 1768 roedd yn ymgeisydd ar gyfer swydd llyfrgellydd Llyfrgell Bodleian, Rhydychen. Roedd y pleidleisiau rhyngddo ef a'i gystadleuyddJohn Price yn gyfartal, a phenodwyd Price oherwydd ei fod ychydig fisoedd yn hŷn. Wedi siomi o fethu cael y swydd aeth i wasanaethu Ardalydd Buckingham fel tiwtor.
Daeth yn brifathro Coleg y Trwyn Pres ym 1785, swydd a ddaliodd hyd 1809. Gan hynny swyddi cyfochrog oedd ei dri phenodiad fel esgob.[4]
Ordeiniwyd Cleaver yn Esgob am y tro cyntaf ar Esgobaeth Caer ym 1787, dwy flynedd ar ôl ei godi'n brifathro. Fel Esgob Caer, roedd yn poeni am dwf Anghydffurfiaeth yn ei ardal. Roedd yn hynod wrthwynebus i bregethwyr teithiol oedd yn efengylu mewn caeau, tai preifat tafarndai ac ati yn hytrach na mewn adeiladau a benodwyd ar gyfer addoliad. Roedd am newid y gyfraith i sicrhau mae dim ond mewn llefydd a benodwyd ar gyfer addoli (megis Eglwysi plwyf) oedd hawl i bregethu.
Ym 1800 daeth Cleaver yn Esgob Bangor.[5] Yn ei gyfnod doedd clerigwyr ddim yn derbyn cyflog penodedig, byddai lefel eu hincwm yn cael ei bennu gan gyfoeth bro eu gwasanaeth, roedd Esgobaeth Bangor yn gymharol dlawd (gwerth llai na £2,000 y flwyddyn). Gyda gwraig llond tŷ o blant, ond pwysicach byth statws i'w gynnal cwynodd Cleaver i'w hen gyfaill Ardalydd Buckingham am ei ddiffyg incwm o Fangor. Gofynnodd i Buckingham ceisio rhoi pwysau ar y Prif Weinidog, yr Arglwydd Grenville, i roi Llanelwy iddo. Gwerth Llanelwy oedd £6,000 y flwyddyn (dros £6 miliwn y flwyddyn o ran gwerth incwm cymharol yn 2019) [6]. Cytunodd y Prif Weinidog a daeth Cleaver yn Esgob Llanelwy ar 15 Hydref 1806.
Gan barhau a'i ofnau am dwf anghydffurfiaeth, nododd Cleaver, yn ei gyfnod fel Esgob Llanelwy, bod rhan o'r broblem oedd yn wynebu'r Eglwys wladol oedd nifer y clerigwyr absennol. Pobl oedd yn derbyn cyflog plwyf heb bod yn bresennol yn y plwyf. I geisio atal hyn aeth ati i godi rheithordai a ficerdai niferus yn yr esgobaeth. Adeiladwyd nifer o'r cartrefi gofal a gwestai sy'n dwyn yr enw The Old Rectory, The Old Vicarage ac ati yn ardal Esgobaeth Llanelwy heddiw o dan ei Esgobaeth ef.
Priododd, tua 1779, â Miss Asheton, chwaer William Asheton, o Swydd Gaerhirfryn, a bu iddynt nifer fawr o blant.
Bu farw ar 15 Mai 1815 yn Bruton Street, Llundain, ar ôl dechrau salwch a ystyriwyd yn angheuol ar unwaith gan ei feddygon.