William Edmond Logan | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ebrill 1798 Montréal |
Bu farw | 22 Mehefin 1875 Sir Benfro |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | daearegwr |
Gwobr/au | Marchog Faglor, Medal Wollaston |
Daearegwr o Ganada oedd Syr William Edmond Logan (20 Ebrill 1798 – 22 Mehefin 1875).[1]
Ganwyd ym Montréal, Cwebéc, i rieni o'r Alban. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caeredin, a dechreuodd weithio i'w ewythr yn Llundain yn 1818. Yn y gwaith hwn, o 1831 i 1838, efe oedd yn gyfrifol am reoli pyllau glo a mwyndoddfa copr ger Abertawe, ac yno fe fagodd ddiddordeb mewn daeareg tra'n llunio mapiau'r maes glo.
Penodwyd Logan yn gyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Canada yn 1842, a daliai'r swydd honno hyd iddo ymddeol yn 1869. Cyhoeddodd ei adroddiad enfawr ar ddaeareg Canada yn 1863. Bu farw yng Nghastell Malgwyn, ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro, yn 77 oed.
Enwir Mynydd Logan, mynydd uchaf Canada, ar ei ôl.