William Llewelyn Williams | |
---|---|
![]() W Llewelyn Williams (1906) | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1867 ![]() Llansadwrn ![]() |
Bu farw | 22 Ebrill 1922 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bargyfreithiwr, llenor, gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Roedd W Llewelyn Williams (10 Mawrth 1867-22 Ebrill 1922), yn newyddiadurwr, bargyfreithiwr a llenor o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1906 a 1918[1]
Ganwyd Williams yn Brownhill, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin yn ail fab i Morgan Williams a Sarah (née Davies) ei wraig.
Roedd ei deulu yn un oedd wedi bod yn flaenllaw yn achos enwad Cristionogol yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd tad-cu Williams, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac, Llandeilo. Roedd y Parchedigion John Williams (1819-1869) gweinidog Annibynnol Llangadog, Castellnewydd Emlyn a Chapel Iwan a Benjamin Williams (1830-1886) a fu'n gwasanaethu yn Nowlais, Dinbych ac Abertawe yn ewythrod iddo.
Addysgwyd Williams yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Yn Rhydychen, bu yn un o aelodau cynnar Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Cymraeg i fyfyrwyr prifysgolion y ddinas. Ymysg ei gyd aelodau o'r gymdeithas bu O. M. Edwards, John Morris-Jones, Edward Anwyl, John Puleston Jones a Daniel Lleufer Thomas[2]
Ar 30 Rhagfyr 1891 ymbriododd ag Elinor (Nelly) Jenkins, Glansawdde, merch James Jenkins, un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin.[3] Canodd Syr John Morris Jones Cywydd i ddathlu'r briodas.[4]
Heddychwr ond cefnogodd y Rhyfel yn 1914. Ond torrodd pob cysylltiad â David Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol. Safodd yn erbyn y Rhyddfrydwyr yn 1921.
Gw. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t.640
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Alfred Davies |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1906 – 1918 |
Olynydd: diddymwyd yr etholaeth |