William Parry | |
---|---|
Ganwyd | Llaneurgain |
Bu farw | 2 Mawrth 1585 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysbïwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1584-85 Parliament |
Cynllwynwr Catholig a Doethur yn y Gyfraith Wladol (Sifil) oedd William Parry [1] (bu farw 2 Mawrth 1585).
Hanai William Parry o Laneurgain, Sir y Fflint; roedd yn fab i Henry ap David, mae'n debyg.
Gwasanaethodd William Parry yr Arglwydd Uwch Drysorydd Burghley, sef William Cecil, yn ysbïo ar y Pabyddion, yn rhannol efallai er mwyn dianc rhag ei ofynwyr mewn cyfnod crefyddol cythryblus. Croesodd i'r cyfandir yn 1571, 1579 ac yn 1582. Gydag amser daeth i gydymdeimlo fwyfwy ag achos Pabyddiaeth a rhywsut fe'i cafodd ei hun yn gysylltiedig â chynllwyn gwleidyddol-grefyddol ei natur a'i harweiniodd mor bell â'r Eidal. Yno ceisiodd gael trafodaethau gydag ysgrifennydd Brenin y Catholigion yn Fenis.
Cynllwyn i ladd y Frenhines Elisabeth I [2][3] oedd hwn, er mwyn ceisio dychwelyd ynys Prydain i'r grefydd Gatholig ac i ymwrthod â diwygiadau Protestanaidd. Daeth yn amlwg fod y cynllwyn 'bradwrus' yma wedi deillio o ganlyniad i'r mesur seneddol yn y Tŷ Cyffredin [4] oedd yn condemnio'r Jeswitiaid yn 1584. Wedi cyfnod manwl o groesholi difrifol fodd bynnag, fe'i dyfarnwyd yn euog o frad yn erbyn y Frenhines.
Cafodd ei ddienyddio ar 2 Mawrth, 1585 [5] er gwaethaf ei erfyniadau taer i'w Mawrhydi yn datgan nad oedd unrhyw fwriad ganddo heblaw gwneuthur Ewyllys Duw a'r Pab. Erys amheuaeth ynghylch i ba raddau y bu'n euog o'r drygioni hwn, a phaham y ceisiodd weithredu y fath gynllwyn ysgeler. Rhoddwyd gweddi a mawl i Dduw yn y senedd yn fuan wedyn, i roi clo fel pe tae, ar y digwyddiad hwn a ddaeth i'r golwg yn ystod argyfwng gwladol, a hynny yn hollol ddirybudd fe ymddengys.
!