Winston Roddick

Winston Roddick
CB QC
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
Yn ei swydd
15 Tachwedd 2012 – 5 Mai 2016
Manylion personol
GanwydGeorge Winston Roddick
(1940-10-02) 2 Hydref 1940 (84 oed)[1]
Caernarfon[1]
Plaid wleidyddolAnnibynnol

Bargyfreithiwr o Gymru yw George Winston Roddick, CB, QC (ganwyd 2 Hydref 1940),[1] a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Heddlu Gogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond rhedodd fel ymgeisydd annibynnol ac ymddiswyddodd o'r blaid wedi ei ethol.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Roddick yng Nghaernarfon,[1] a'i haddysgwyd yn Ysgol Forwrol Frenhinol Tal-Handaq, Malta ac Ysgol Ramadeg Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Ar ôl hyfforddi a gweithio fel heddwas yn Lerpwl, aeth i wneud gradd yn y gyfraith yngNgholeg Prifysgol Llundain.

Gyrfa gyfreithiol

[golygu | golygu cod]

Fe hyfforddodd fel bargyfreithiwr a fe'i galwyd i'r bar yn 1968.[2] Yn un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru, derbyniodd sidan yn 1986 a daeth yn gofiadur Llys y Goron,[2] a daeth yn Gwnsel Cyffredinol Cymru rhwng 1998 a 2004, gan weithredu fel uwch ymgynghorydd ar yr holl faterion cyfreithiol perthnasol i bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol. Penodwyd yn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer yn 2007. Daeth yn Gofiadur Anrhydeddus cyntaf Tref Frenhinol Caernarfon yn 2001.

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Safodd Roddick ddwywaith yn etholiadau Seneddol dros y Blaid Ryddfrydol ond roedd yn aflwyddiannus: yn Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol y DU, 1970 UK , ac yn Ne Caerdydd a Phenarth yn 1983. Roedd yn gadeirydd Plaid Ryddfrydol Cymru yn y 1980au cynnar.[3]

Comisiynydd Heddlu a Throsedd

[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2012, safodd fel ymgeisydd yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gan guro Tal Michael o Lafur yn yr ail rownd.[4] Ar ôl yr etholiad, fe'i beirniadwyd am fod yn ymgeisydd annibynnol er ei fod yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Phlaid Lafur Cymru yn ei gyhuddo o 'guddio' ei deyrngarwch am resymau gwleidyddol.[5] Cyhoeddodd yn Mawrth 2016 y byddai'n gadael ei swydd am resymau teuluol a na fyddai'n sefyll eto yn etholiadau'r Comisiynydd yn Mai 2016.[6]

Yn 1997, apwyntiwyd Roddick fel aelod o'r Independent Television Commission, a rhwng 2004 a 2012 roedd yn aelod o Awdurdod S4C.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n aelod o Gorsedd y Beirdd, noddwr Clwb Rygbi Caernarfon, Aelod Anrhydeddus am oes o Glwb Cefnogwyr o C.P.D. Tref Caernarfon Town, Llywydd Anrhydeddus GISDA (elusen ar gyfer pobl ifanc digartref yng Ngwynedd), ac Is Lywydd Côr Meibion Caernarfon.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Mae Roddick yn Gydymaith Urdd y Baddon ac yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Winston Roddick". Debretts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-28. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 "Winston Roddick". 9 Park Place. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-16. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
  3. The Times Guide to the House of Commons: June 1983, p.72
  4. "Winston Roddick elected as North Wales police and crime commissioner". BBC Wales. 16 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
  5. Bodden, Tom (20 Tachwedd 2012). "New Police Commissioner says he didn't try to hide Lib Dem membership". Daily Post. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2012.
  6.  Comisiynydd Heddlu i adael ei swydd. BBC Cymru Fyw (7 Mawrth 2016).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]