Cwrs Cymraeg dwys i ddechreuwyr yw Wlpan. Fe ddaw o'r gair Hebraeg am stiwdio (אולפן, wlpán), gan fod cyrsiau Hebraeg yn Israel wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r cwrs.[1] Elwyn Hughes oedd un o arloeswyr y cwrs, a threfnir gwersi yn defnyddio'r dull hwn gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion ledled Cymru. Mae'r pwyslais ar Gymraeg llafar, a'r bwriad yw dysgu sylfeini'r iaith mewn amser byr. Mae gwahanol fersiynau o'r cwrs yn adlewyrchu tafodieithoedd gwahanol ardaloedd yng Nghymru.[2]
Ymysg lladmeryddion a gweithredwyr cynharaf y cwrs oedd Chris Rees a Gwilym Roberts a ddechreuodd ddysgu'r cwrs yng Hen Ganolfan yr Urdd, Heol Conwy, Caerdydd yn 1973.[3]