Cân bop yw "Word Is Out", a ysgrifennwyd gan y ddeuawd Seisnig Stock and Waterman ar gyfer pedwerydd albwm Kylie Minogue Let's Get to It (1991). Cafodd ei gynhyrchu gan Stock and Waterman, a derbyniodd ymateb cymysg wrth y beirniaid. Yn wreiddiol, rhyddhawyd y gân fel sengl yn Haf 1991 a chyrhaeddodd yr ugain uchaf yn y DU gan orffen rhes Mingoue o ganeuon a aeth yn syth i mewn i'r deg uchaf. Roedd y gân yn llwyddiant yn Awstralia, gyda'r fersiwn mwy hamddenol y Summer Breeze Mix yn cyrraedd rhif deg yn y siart.
Cafodd y fideo a oedd yn cyd-fynd â'r gân ei chyfarwyddo gan James LeBon ac fe'i ffilmiwyd yn marchnad enwog Llundain yn Camden Town. Ymddangosodd y gyflwynwraig teledu Prydeinig, Davina McCall yn y fideo hefyd fel un o'r dawnswyr. Roedd y fideo yn ddadleuol yn sgîl dillad rhywiol Minogue a ddarluniai Kylie a'i dawnswyr fel puteiniaid. Rhoddodd hyn sioc i nifer o rieni a beirniaid cerddorol wrth i Kylie ddatblygu delwedd a gwisg a oedd yn fwy addas i oedolion na'i phedwar fideo blaenorol.
Sengl CD
Sengl CD Awstraliaidd
Sengl Caset y DU
Sengl Caset Awstraliaidd
Sengl Finyl 7" y DU
Sengl Finyl 12"
Sengl Finyl 12" y DU
Sengl Finyl 12" Awstralaidd