![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Worsthorne-with-Hurstwood |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.783°N 2.183°W ![]() |
Cod OS | SD875325 ![]() |
![]() | |
Pentref yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Worsthorne.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Worsthorne-with-Hurstwood yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Burnley.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Worsthorne boblogaeth o 1,028.[2]
Yn 1202 enw'r pentref oedd Worthesthorn sef 'draenen 'Weorth' (enw person).[3]
Trigodd dyn yn y cyffiniau ar ddiwedd Oes y Cerrig, yr Oes Efydd ac Oes yr Haearn. Ceir carneddi hynafod a dau gylch cerrig yn cyfeiriad grid SD885327 - ar rostir i'r dwyrain o'r pentref a chafwyd hyd i gyllell fflint yn y cyffiniau - sydd bellach i'w weld yn yr amgueddfa leol: Towneley Museum.[4]